xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010

2010 mccc 4

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i drosglwyddo i'r Bwrdd hwnnw swyddogaethau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â thaliadau aelodau'r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru, ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â hynny.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Mai 2010 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 21 Gorffennaf 2010, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

1 [F1Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] LL+C

(1)Bydd [F2bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd] (“y Bwrdd”).

(2)Aelodau'r Bwrdd yw'r Cadeirydd a phedwar aelod arall.

(3)Os bydd swydd y Cadeirydd yn wag, neu os na all y Cadeirydd weithredu, caiff aelodau eraill y Bwrdd benodi un o'u plith yn Gadeirydd Dros Dro.

(4)Cworwm y Bwrdd yw tri.

(5)Ni chaiff y Bwrdd wneud yr un penderfyniad o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf oni bai bod y cynnig i wneud hynny wedi'i gymeradwyo gan o leiaf dri o aelodau'r Bwrdd.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) a (5) ac i adran 2(2), mae'r Bwrdd i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(7)Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion y Bwrdd—

(a)swydd wag ymhlith yr aelodau, neu

(b)diffyg wrth benodi aelod.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn mhennawd a. 1 wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 4(2)

F2Geiriau yn a. 1(1) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), aau. 8, 42(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

2Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysolLL+C

(1)Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y [F3Senedd] na Chomisiwn y [F3Senedd].

(2)Rhaid i'r Bwrdd—

(a)weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a

(b)cyhoeddi ar wefan y [F4Senedd] y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.

(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.

(4)Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—

(a)[F5Aelodau o’r Senedd],

(b)staff a gyflogir gan [F5Aelodau o’r Senedd] (neu gan [F5Aelodau o’r Senedd]),

(c)undebau llafur perthnasol, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.

(5)Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag [F5Aelodau o’r Senedd], roi sylw i is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

3Swyddogaethau'r BwrddLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) a (4), swyddogaethau'r Bwrdd yw'r rhai a roddir iddo gan adrannau 20, 22, 24, 53 a 54 o'r Ddeddf, fel y'i diwygir gan y Mesur hwn.

(2)Rhaid i'r Bwrdd arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wireddu'r amcanion canlynol—

(a)darparu lefel taliadau ar gyfer [F5Aelodau o’r Senedd]

(i)sy'n adlewyrchiad teg o gymhlethdod a phwysigrwydd y swyddogaethau y disgwylir iddynt eu cyflawni, a

(ii)nad yw, ar sail ariannol, yn atal personau y mae ganddynt yr ymrwymiad a'r gallu angenrheidiol rhag ceisio cael eu hethol i'r [F3Senedd],

(b)darparu adnoddau ar gyfer [F5Aelodau o’r Senedd] sy'n ddigonol i'w galluogi i arfer eu swyddogaethau fel [F6Aelodau o’r Senedd], a

(c)sicrhau priodolder, atebolrwydd, gwerth am arian a thryloywder o ran gwariant cyllid cyhoeddus.

(3)Rhaid i'r Bwrdd adolygu'n barhaus i ba raddau y mae'n ymddangos bod y penderfyniadau hynny'n gwireddu'r amcanion a nodir yn is-adran (2), gan roi sylw i'r canlynol—

(a)y profiad a geir drwy roi penderfyniadau'r Bwrdd ar waith,

(b)newidiadau yn swyddogaethau [F5Aelodau o’r Senedd], a

(c)unrhyw newidiadau perthnasol eraill yn yr amgylchiadau.

(4)Caiff y Bwrdd, o dro i dro, ystyried unrhyw fater arall sy'n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu ar ôl cael cais ysgrifenedig gan y Clerc.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

4Anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r BwrddLL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n cael eu hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

5Pŵer i ddiwygio Atodlen 1LL+C

(1)Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y [F3Senedd] yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,

(b)dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu

(c)newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.

(2)Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.

(3)Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y [F3Senedd] wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—

(a)arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a

(b)gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

6Penodi aelodau'r BwrddLL+C

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd—

(a)i'w penodi gan Gomisiwn y [F3Senedd], a

(b)i ddal eu swydd am gyfnod penodedig o bum mlynedd o ddyddiad eu priod benodiadau.

(2)Ni chaniateir penodi neb yn aelod o'r Bwrdd os yw'r person hwnnw eisoes wedi'i benodi'n aelod o'r Bwrdd ddwy waith.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ynghylch penodi aelodau'r Bwrdd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

7Terfynu aelodaeth o'r BwrddLL+C

Mae'r Cadeirydd neu unrhyw aelod arall o'r Bwrdd yn peidio â dal swydd—

(a)pan ddaw'r cyfnod y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer i ben,

(b)os bydd y person hwnnw'n ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Gomisiwn y [F3Senedd],

(c)os daw'r person hwnnw'n anghymwys i fod yn aelod o'r Bwrdd, neu

(d)os bydd y [F3Senedd] yn penderfynu felly drwy gynnig a gynigir ar ran Comisiwn y [F3Senedd] gan aelod o Gomisiwn y [F3Senedd], ar yr amod, os caiff y penderfyniad ei basio ar bleidlais, na fydd nifer y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw o blaid y penderfyniad yn llai na dwy ran o dair o gyfanswm y pleidleisiau sy'n cael eu bwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

8Telerau ac amodauLL+C

(1)Mae Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i ddal eu swydd yn unol â thelerau ac amodau eu penodiad.

(2)Comisiwn y [F3Senedd] sydd i bennu'r telerau a'r amodau hynny.

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] dalu Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd unrhyw symiau y mae ganddynt hawl i'w cael o dan y telerau a'r amodau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 8 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

9Cymorth gweinyddolLL+C

Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] ddarparu ar gyfer y Bwrdd unrhyw gymorth gweinyddol y mae'n rhesymol i'r Bwrdd ofyn amdano i'w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 9 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

10Cyfarfodydd y BwrddLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3) ac i adran 13(7), (8) a (9), mater i'r Bwrdd yw penderfynu pa bryd y bydd yn cyfarfod.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(3)Rhaid i'r Bwrdd, os bydd y Clerc yn gofyn iddo, gyfarfod er mwyn ystyried mater neu faterion penodol sy'n berthnasol i'w swyddogaethau.

(4)Rhaid i gais o dan is-adran (3) fod mewn ysgrifen a rhaid iddo bennu'r mater neu'r materion o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 10 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

11Adroddiad blynyddolLL+C

Rhaid i'r Bwrdd, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, osod gerbron y [F3Senedd] adroddiad blynyddol ar ei weithgareddau, gan gynnwys sut mae wedi defnyddio adnoddau, yn ystod y flwyddyn ariannol honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 11 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

12PenderfyniadauLL+C

(1)Rhaid i bob penderfyniad a wneir gan y Bwrdd o dan adran 20(6), 24(1) neu 53(7) o'r Ddeddf fod mewn ysgrifen.

(2)Rhaid i'r Bwrdd gyfleu ei benderfyniadau i Gomisiwn y [F3Senedd].

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd], cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud gan y Bwrdd—

(a)ymgorffori'r penderfyniad hwnnw, ynghyd ag unrhyw benderfyniadau eraill sydd i barhau mewn grym, mewn un ddogfen, a

(b)cyhoeddi'r ddogfen honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 12 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

13Arfer swyddogaethau mewn perthynas â chyflogauLL+C

(1)Yn ddarostyngedig i is-adran (2), mae cyfeiriadau yn yr adran hon at dymor [F3Senedd] yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir pôl mewn etholiad cyffredinol cyffredin i'r [F3Senedd] ac sy'n diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir pôl yn yr etholiad cyffredinol cyffredin nesaf i'r [F3Senedd] .

(2)Os bydd—

(a)etholiad cyffredinol anghyffredin i'r [F3Senedd] yn cael ei gynnal, a

(b)bod adran 5(5) o'r Ddeddf yn gymwys,

wedyn, at ddibenion yr adran hon, mae tymor y [F3Senedd] yn diweddu ar y diwrnod cyn y diwrnod y cynhelir y pôl ar gyfer yr etholiad cyffredinol anghyffredin hwnnw ac mae tymor nesaf y [F3Senedd] yn dechrau ar y diwrnod y cynhelir y pôl hwnnw.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4) ni chaiff y Bwrdd wneud mwy nag—

(a)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i [F5Aelodau o’r Senedd]), a

(b)un penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (talu cyflogau i Brif Weinidog Cymru, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Dirprwy Weinidogion Cymru),

sydd i fod yn effeithiol yn ystod pob un o dymhorau'r [F3Senedd] .

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiadau a osodir gan is-adran (3) beidio â bod yn gymwys.

(5)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (4) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(6)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (5) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(7)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F3Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 20(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(8)Rhaid i'r Bwrdd, o ran pob tymor [F3Senedd], wneud penderfyniad sy'n gwneud darpariaeth o dan adran 53(1) o'r Ddeddf ac sydd i fod yn effeithiol, pryd bynnag y'i gwnaed, o ddechrau'r tymor hwnnw.

(9)Rhaid i'r Bwrdd, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, wneud y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (7) ac (8) cyn diwedd y tymor [F3Senedd] cyn y tymor [F3Senedd] y maent i fod yn effeithiol mewn perthynas ag ef, ond os yw'n methu â gwneud hynny, rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd]

(a)nes bod penderfyniadau o'r fath yn cael eu gwneud, barhau i wneud taliadau yn unol â'r penderfyniadau a gafodd effaith mewn perthynas â'r tymor blaenorol hwnnw o'r [F3Senedd], a

(b)pan gaiff penderfyniadau o'r fath eu gwneud, addasu unrhyw daliadau dilynol i wneud iawn am unrhyw dandaliadau neu adennill unrhyw ordaliadau, yn ôl fel y digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 13 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

14Arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ad-dalu costau a ysgwyddwyd wrth gyflogi staffLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ad-dalu costau a ysgwyddwyd gan [F5Aelodau o’r Senedd] (neu gan grwpiau o [F5Aelodau o’r Senedd]) wrth gyflogi staff.

(2)Os yw'r Bwrdd wedi gwneud penderfyniad sy'n cynnwys unrhyw ddarpariaeth y mae'r adran hon yn gymwys iddi, ni chaiff y Bwrdd, drwy benderfyniad dilynol, wneud unrhyw addasiad i'r ddarpariaeth honno mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae'r ddarpariaeth honno'n effeithiol mewn perthynas â hi (neu â rhan ohoni) gyntaf.

(3)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw'r Bwrdd o'r farn bod yna amgylchiadau eithriadol sy'n golygu ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol i'r cyfyngiad a osodir gan isadran (2) beidio â bod yn gymwys.

(4)Os bydd y Bwrdd yn ffurfio barn o'r math y cyfeirir ati yn is-adran (3) rhaid iddo ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros fod wedi gwneud hynny, gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(5)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (4) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 14 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

15Arfer swyddogaethau: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i'r Bwrdd, y tro cyntaf y mae'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i argymhellion Panel Adolygu Annibynnol [F3Senedd] Cenedlaethol Cymru ar drefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i [F5Aelodau o’r Senedd] a gyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2009, i'r graddau y mae'r argymhellion hynny'n berthnasol i'r mater hwnnw.

(2)Os bydd y Bwrdd, wrth wneud penderfyniad y mae is-adran (1) yn gymwys iddo, yn cynnwys yn y penderfyniad hwnnw ddarpariaeth sydd, mewn unrhyw fodd, yn wahanol i'r argymhellion hynny, rhaid i'r Bwrdd ddatgan mewn ysgrifen ei resymau dros wneud hynny gan gyfleu'r datganiad hwnnw i Gomisiwn y [F3Senedd] yr un pryd â'r penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(3)Rhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] osod gerbron y [F3Senedd] unrhyw ddatganiad a gyflëir iddo o dan is-adran (2) yr un pryd ag y bydd yn gosod gerbron y [F3Senedd] y penderfyniad y mae'n ymwneud ag ef.

(4)Yn ddarostyngedig i is-adran (1) caiff y Bwrdd, pan fo'n bwriadu gwneud penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw fater, roi sylw i'r argymhellion hynny i'r graddau y mae'n ymddangos i'r Bwrdd eu bod yn dal yn berthnasol i'r mater hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 15 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

16Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006LL+C

Diwygir y Ddeddf yn unol ag Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 16 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

F717Diwygio Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

18DehongliLL+C

Yn y Mesur hwn—

(a)ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32),

(b)mae i unrhyw ymadroddion eraill sydd heb eu diffinio fel arall yn y Mesur hwn yr un ystyr ag yn y Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 18 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

19Darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C

(1)Nid yw'r ffaith bod adran 16 yn dod i rym yn effeithio ar unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau'r canlynol—

(a)adrannau 20, 24 neu 53 o'r Ddeddf, neu

(b)adrannau 16, 18 neu 34A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38).

(2)Mae unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan benderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath yn parhau mewn grym fel pe bai wedi'i gwneud gan y Bwrdd o dan adrannau 20, 24 neu 53 (yn ôl fel y digwydd) o'r Ddeddf fel y'i diwygir gan y Mesur hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriadau at y [F3Senedd] neu at Gomisiwn y [F3Senedd] mewn penderfyniad neu gyfarwyddyd o'r fath fel cyfeiriadau at y Bwrdd, i'r graddau bod angen gwneud hynny er mwyn rhoi effaith i'r is-adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 19 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

20Enw Byr a ChychwynLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur [F3Senedd] Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

(2)Daw adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 12, 17, 18 a'r adran hon i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym drannoeth y diwrnod y gosodir hysbysiad o dan is-adran (4) gerbron y [F3Senedd] .

(4)Rhaid i'r Clerc, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i benodiadau cyntaf Cadeirydd a phedwar aelod arall y Bwrdd i gyd gael eu gwneud, osod gerbron y [F3Senedd] hysbysiad—

(a)o'r ffaith bod y penodiadau o dan sylw wedi'u gwneud,

(b)o enwau'r personau a benodwyd, a

(c)o'r ffaith y daw holl ddarpariaethau'r Mesur hwn (heblaw'r rhai sydd eisoes mewn grym) i rym drannoeth y diwrnod y gosodir yr hysbysiad a hynny am fod yr hysbysiad yn cael ei osod.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 20 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 1LL+CANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD

1LL+CMae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—

(a)[F8Aelod o’r Senedd],

(b)y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n [F8Aelod o’r Senedd]),

(c)ymgeisydd i'w ethol yn [F8Aelod o’r Senedd],

(d)person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd [F9Aelod rhanbarthol o’r Senedd] yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),

(e)aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F10... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,

(f)aelod o staff y [F3Senedd],

(g)aelod o staff Llywodraeth F11... Cymru,

(h)person a gyflogir gan [F8Aelod o’r Senedd] neu gan [F12grŵp o Aelodau] er mwyn helpu'r aelod hwnnw neu'r aelodau o'r grŵp hwnnw i gyflawni swyddogaethau [F8Aelod o’r Senedd],

(i)Archwilydd Cyffredinol Cymru,

(j)Comisiynydd Safonau [F13y Senedd],

(k)aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y [F3Senedd],

(l)person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y [F3Senedd],

F14(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(n)person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth F15... Cymru.

Diwygiadau Testunol

F8Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 4(7)(8))

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

2LL+CAt ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn [F8Aelod o’r Senedd]

(a)ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu

(b)ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r [F3Senedd],

p'un bynnag fydd gyntaf.

Diwygiadau Testunol

F8Geiriau yn y Mesur wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(9) (ynghyd ag Atod. 1 para. 4(7)(8))

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

3LL+CWrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

(a gyflwynir gan adran 6(3))

ATODLEN 2LL+CPENODI AELODAU'R BWRDD

1LL+CRhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

2LL+CCaiff y trefniadau hynny—

(a)eu diwygio o dro i dro, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

3LL+CO ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—

(a)nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a

(b)eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

4LL+CRhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y [F16Senedd] yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

5LL+CRhaid i Gomisiwn y [F3Senedd] benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

6LL+CNid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y [F3Senedd] fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

(a gyflwynir gan adran 16)

ATODLEN 3LL+CDIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006

Adran 20LL+C

1Yn adran 20(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

2Yn adran 20(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

3Yn adran 20(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

4Yn lle adran 20(6) rhowch—

(6)Provision under this section is to be made by determination made by the Board..

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

5Ar ôl adran 20(6) rhowch—

(7)The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.

(8)In this section (and in sections 22, 24, 53 and 54) “the Board” means the National Assembly for Wales Remuneration Board established by section 1 of the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010 (nawm 4 —)..

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

Adran 22LL+C

6Yn adran 22(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission).”.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

7Yn lle adran 22(3) rhowch—

(3)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 20(6) as soon as is reasonably practicable after it is made..

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

Adran 24LL+C

8Yn adran 24(1) hepgorwch “as the Assembly from time to time determines” ac yn ei le rhowch “as the Board from time to time determines”.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

9Hepgorwch is-adran 24(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

10Yn lle is-adran 24(6) rhowch—

(6)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 24(1) as soon as is reasonably practicable after it is made..

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

11Ar ôl is-adran 24(6) rhowch—

(7)The Assembly Commission must ensure that information concerning the sums paid under this section is published for each financial year..

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

Adran 53LL+C

12Yn adran 53(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

13Yn adran 53(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

14Yn adran 53(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

15Yn lle adran 53(7) rhowch—

(7)Provision under this section is to be made by determination made by the Board..

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

16Ar ôl adran 53(7) rhowch—

(8)The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section..

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

Adran 54LL+C

17Yn adran 54(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf

18Yn lle adran 54(3) rhowch—

(3)The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 53(7) as soon as is reasonably practicable after it is made..

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf