xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 178 (Cy. 26) (C. 5)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014

Gwnaed

29 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 97 a 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Arbed) 2014.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Darpariaethau sy’n dod i rym ar 20 Chwefror 2014

2.  Yn ddarostyngedig i erthygl 3, y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 20 Chwefror 2014—

(a)Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);

(b)Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);

(c)adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);

(d)adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;

(e)Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);

(f)Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac

(g)paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).

Arbedion mewn perthynas ag adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996

3.—(1Nid yw dod ag unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 i rym yn effeithio ar unrhyw weithred a wneir, unrhyw ddatganiad nac unrhyw gyfarwyddyd o dan bwerau Gweinidogion Cymru yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996(2) neu mewn perthynas ag arfer y pwerau hynny, ac mae’r adrannau hynny yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 wedi eu gwneud.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi cyfarwyddyd drwy arfer eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“y pwerau cyfarwyddo”) cyn i unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 ddod i rym a’u bod wedi eu bodloni y dylai cyfarwyddyd pellach gael ei ddyroddi mewn perthynas â’r un materion drwy arfer y pwerau cyfarwyddo, mae’r adrannau hynny yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai’r darpariaethau a nodir yn erthygl 2 wedi eu gwneud.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Ionawr 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Dyma’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 20 Chwefror 2014 ddarpariaethau canlynol Deddf 2013:

(a)Pennod 1 o Ran 2 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir);

(b)Pennod 2 o Ran 2 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol);

(c)adran 96 (diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion);

(d)adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o Atodlen 5;

(e)Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim);

(f)Rhan 1 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â Rhan 2 o Ddeddf 2013); ac

(g)paragraffau 32 a 34(2) o Ran 3 o Atodlen 5 (diddymu adran 58 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod unrhyw weithred, datganiad neu gyfarwyddyd y mae Gweinidogion Cymru wedi ei wneud o dan eu pwerau yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”), neu mewn perthynas â’r pwerau hynny, yn parhau i fod yn gymwys. Mae hefyd yn darparu y caniateir i gyfarwyddyd pellach, mewn perthynas â’r un materion, gael ei wneud o dan adrannau 496 i 497A o Ddeddf 1996.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 38, 39, 97 a 98

26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â llunio a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion

O.S. 2013/1000 (Cy.105)

Adrannau 38 a 39

1 Hydref 2013 yn llawn

O.S. 2013/1800

(Cy.182)

Pennod 2 o Ran 3

1 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)

Pennod 3 o Ran 3

1 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)

Pennod 4 o Ran 3

1 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)

Pennod 5 o Ran 3

1 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)

Pennod 6 o Ran 3

1 Hydref 2013O.S. 2013/1800 (Cy.182)
Rhan 42 Rhagfyr 2013

O.S. 2013/3024 (Cy.299)

Adrannau 97 a 98

4 Mai 2013 yn llawn

O.S. 2013/1000

(Cy.105)

Adran 991 Hydref 2013 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5

O.S. 2013/1800

(Cy.182)

Atodlen 21 Hydref 2013

O.S. 2013/1800

(Cy.182)

Atodlen 31 Hydref 2013

O.S. 2013/1800

(Cy.182)

Paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4

1 Hydref 2013

O.S. 2013/1800

(Cy.182)

Rhan 2 o Atodlen 51 Hydref 2013

O.S. 2013/1800

(Cy.182)