xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 343 (Cy. 64) (C. 16)

Partneriaeth Gymdeithasol, Cymru

Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024

Gwnaed

7 Mawrth 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 48(1) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym ar 1 Ebrill 2024—

(a)adran 17;

(b)adran 19.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (dsc 1) (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 17 (dyletswydd partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru) ac adran 19 (adroddiadau partneriaeth gymdeithasol: Gweinidogion Cymru) o’r Ddeddf ar 1 Ebrill 2024.

NODYN AM Y GORCHYMYN CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 129 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 229 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 329 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 429 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 529 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 629 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 729 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 829 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 1129 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 1229 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 1329 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 1429 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 151 Ebrill 2024O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 161 Ebrill 2024O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 181 Ebrill 2024O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 201 Ebrill 2024O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 4629 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 4729 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)
Adran 4929 Gorffennaf 2023O.S. 2023/794 (Cy. 126) (C. 43)