xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 407 (Cy. 73)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

20 Mawrth 2024

Yn dod i rym

31 Mawrth 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2(3), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy, fel sy’n ofynnol gan adrannau 2(4) a 27(4)(a) o’r Ddeddf, ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Senedd Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 187(2)(b) ac (f) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2024.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(3).

Diwygio’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig

2.  Mae’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol: eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cartref gofal

3.  Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r atalnod llawn rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—

(l)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolion mewn gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol.

Ond nid yw’r eithriad hwn yn gymwys oni bai—

(i)bod yr awdurdod lleol yn llwyr gyfrifol am ddarparu’r gofal canolraddol, a

(ii)bod y gofal canolraddol yn cael ei ddarparu am ddim mwy nag un wythnos ar bymtheg ar y tro i unrhyw un oedolyn.;

4.  Yn rheoliad 2 (gwasanaethau cartrefi gofal), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion paragraff (1)(l) o’r rheoliad hwn—

ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—

(a)

osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,

(b)

lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,

(c)

galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu

(d)

atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal;

ystyr “gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol” (“local authority intermediate care service”) yw gwasanaeth sy’n darparu gofal canolraddol—

(a)

a ddarperir gan awdurdod lleol i oedolyn yn unol â’i ddyletswyddau yn Rhan 2 neu 4 o Ddeddf 2014(4),

(b)

pan fo’r llety a ddefnyddir at ddibenion y gofal canolraddol wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, ac

(c)

pan fo unrhyw ofal a chymorth wedi ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref y mae’r awdurdod lleol wedi ei gofrestru i’w ddarparu.

Diwygio rheoliad 49

5.  Yn rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety—

(a)(i)pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion, a

(ii)pan fo’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2), neu

(b)pan fo’r darparwyr gwasanaethau yn bersonau y mae rheoliad 49A(1) neu reoliad 49B(1) yn gymwys iddynt.

6.  Ar ôl rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13) mewnosoder—

Ailgyflunio mangre

49A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan oedd y gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2)  Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw y gellir darparu llety yn y man hwnnw i bump neu ragor o unigolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.

(4) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 49B—

ystyr “ailgyflunio mangre” (“reconfiguration of premises”) yw ad-drefnu neu newid cynllun ffisegol presennol y fangre er mwyn cynyddu nifer yr unigolion y gellir darparu llety iddynt yn y gwasanaeth.

49B.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan nad oedd y fangre a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn dod o fewn Categori A, B nac C a phan oedd yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw bod nifer yr unigolion y gellir darparu llety ar eu cyfer yn y man hwnnw wedi ei gynyddu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.

Diwygiadau amrywiol

7.  Yn rheoliad 16(2) (adolygu cynllun personol), yn lle “plentyn sy’n derbyn gofal” rhodder “plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol”.

8.  Yn rheoliad 51(2) (gofynion ychwanegol – maint ystafelloedd), ar ôl “gyson” mewnosoder atalnod llawn a hepgorer “oherwydd natur ei anabledd.”

Darpariaeth drosiannol

9.  Mae rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn parhau i gael effaith heb y diwygiadau a wneir gan reoliad 6 mewn perthynas â man lle y darperir gwasanaeth llety ac sy’n destun cais i amrywio cofrestriad gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 11 o’r Ddeddf pan wnaed y cais i Weinidogion Cymru ar neu cyn 30 Mawrth 2024 ond—

(a)nad yw Gweinidogion Cymru wedi ei benderfynu erbyn y dyddiad hwnnw, neu

(b)ei fod wedi ei benderfynu gan Weinidogion Cymru ond ei fod yn destun apêl gan y darparwr gwasanaeth o dan adran 26 o’r Ddeddf ac nad yw’r apêl wedi ei phenderfynu erbyn y dyddiad hwnnw.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

20 Mawrth 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn nodi’r gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt, ac yn eu diffinio fel “gwasanaethau rheoleiddiedig”. Mae’r mathau o “gwasanaethau rheoleiddiedig” a nodir yn y Ddeddf yn cynnwys “gwasanaethau cartrefi gofal”. Mae adran 2(3) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ragnodi mewn rheoliadau nad yw gwasanaethau penodol yn “gwasanaethau rheoleiddiedig”.

Mae adran 27 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i osod, mewn rheoliadau, ofynion ar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer hwn i wneud Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1264 (Cy. 295)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol yn “gwasanaeth cartref gofal” o dan y Ddeddf. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn newid i ba raddau y mae Rhan 13 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn gymwys i wasanaethau llety ac yn gwneud gwahanol ddiwygiadau eraill i’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig.

Diben gofal canolraddol yw osgoi derbyn oedolyn yn ddiangen neu cyn pryd i ysbyty neu wasanaeth cartref gofal, a galluogi rhyddhau oedolyn o’r ysbyty yn amserol. Darperir gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol i oedolion mewn llety sydd wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, pan fo’r gofal a’r cymorth yn cael eu darparu gan wasanaeth cymorth cartref awdurdod lleol rheoleiddiedig.

Mae rheoliadau 3 a 4 wedi eu gwneud o dan adran 2(3) o’r Ddeddf ac yn diwygio rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (gwasanaethau cartrefi gofal). Effaith y diwygiad yw nad yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, pan fo’r llety a’r nyrsio neu’r gofal wedi eu darparu i oedolion at ddibenion gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol, yn gyfystyr â “gwasanaeth cartref gofal” o dan y Ddeddf.

Nid yw’r eithriad hwn ond yn gymwys pan fo’r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu gofal canolraddol, a bo’r gofal yn cael ei ddarparu i bob oedolyn am uchafswm o 16 o wythnosau ar y tro.

Mae Rhan 13 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn ymdrin â’r amgylchiadau pan fo gofynion ychwanegol ynghylch safon mangreoedd yn gymwys i wasanaethau llety newydd. Nid yw Rhan 13 yn gymwys i wasanaethau sy’n darparu llety i bedwar neu lai o unigolion. Mae rheoliadau 5 a 6 yn newid i ba raddau y mae gofynion Rhan 13 yn gymwys i wasanaethau llety cofrestredig sy’n ailgyflunio’u mangreoedd er mwyn darparu llety i bump neu ragor o unigolion.

Bydd yn ofynnol i wasanaethau llety a oedd wedi eu hesemptio yn flaenorol o ofynion Rhan 13 oherwydd eu bod yn darparu llety i lai na phump o unigolion, neu oherwydd eu bod yn darparu llety i fwy na phump o unigolion mewn mangreoedd nad oeddent yng Nghategori A, B nac C, gydymffurfio â gofynion Rhan 13 os yw ailgyflunio’r mangreoedd yn arwain at gynyddu’r capasiti i bump neu ragor o unigolion yn y gwasanaeth. Bydd gofynion Rhan 13 yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol sydd wedi eu creu oherwydd yr ailgyflunio ac i bob ardal gymunedol ac yn yr awyr agored. Bydd y cynnydd yng nghapasiti’r gwasanaeth yn cael ei adlewyrchu mewn amrywiad i amodau cofrestru’r gwasanaeth.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud mân ddiwygiadau amrywiol.

Mae rheoliad 9 yn gwneud trefniadau trosiannol mewn cysylltiad â’r diwygiad a wneir gan reoliad 6.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189 o’r Ddeddf.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn adrannau 27(5) a 187(2) o’r Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).