xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CGwasanaethau sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau

Gwasanaethau cymorth i ddysgwyrLL+C

40Gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellachLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person a grybwyllir yn is-adran (2)—

(a)i ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr;

(b)i sicrhau bod gwasanaethau cymorth i ddysgwyr yn cael eu darparu;

(c)i gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwasanaethau cymorth i ddysgwyr.

(2)Y personau yw—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(3)Yn yr adran hon ystyr “gwasanaethau cymorth i ddysgwyr” yw gwasanaethau a fydd ym marn Gweinidogion Cymru yn annog, galluogi neu gynorthwyo personau ifanc (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol)—

(a)i gymryd rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant;

(b)i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith cyflogedig; neu

(c)i gymryd rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

(4)Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)cynnwys darpariaeth ar gyfer grantiau, benthyciadau a mathau eraill o gymorth ariannol sydd i'w darparu gan Weinidogion Cymru (p'un ai o dan amodau ai peidio);

(b)ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;

(c)ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu, wrth iddo wneud trefniadau â phersonau eraill, ei gwneud yn ofynnol i'r personau hynny roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(5)Caniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1)—

(a)ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc;

(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer dosbarthiadau gwahanol o berson ifanc;

(c)cael ei ddirymu neu ei amrywio gan gyfarwyddyd diweddarach.

(6)Pan fo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) yn ymwneud â darparu gwasanaeth ar ffurf cyngor neu wybodaeth, rhaid iddo gael ei lunio fel ei fod—

(a)yn ymwneud yn unig â gwybodaeth sydd wedi ei chyflwyno mewn modd diduedd; a

(b)yn ymwneud yn unig â chyngor—

(i)sydd wedi ei roi gan berson sy'n ystyried y bydd y cyngor hwnnw yn hyrwyddo lles pennaf y person ifanc o dan sylw; a

(ii)nad yw'n ceisio hyrwyddo buddiannau neu ddyheadau unrhyw ysgol, sefydliad neu berson arall, yn groes i les pennaf y person ifanc.

(7)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “personau ifanc” yw personau sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed ond nid chwech ar hugain oed;

(b)mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institution within the further education sector” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56);

(c)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49(2)

I2A. 40 mewn grym ar 7.12.2009 gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(k)

41Dyletswyddau cyrff llywodraethuLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 40(1).

(2)Caniateir i gamau y mae corff llywodraethu yn eu cymryd yn unol ag is-adran (1) ymwneud â dosbarthiad penodol o berson ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 41 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49(2)

I4A. 41 mewn grym ar 7.12.2009 gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(l)

42Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000LL+C

(1)Mae Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21) wedi'i diwygio'n unol â'r adran hon.

(2)Yn is-adran (1) o adran 126 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)(a) or (b)” mewnosoder “or section 40(1)(a) or (b) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.

(3)Yn is-adran (1)(a) o adran 127 o'r Ddeddf honno, ar ôl “section 123(1)” mewnosoder “or section 40(1) of the Learning and Skills (Wales) Measure 2009”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 42 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49(2)

I6A. 42 mewn grym ar 7.12.2009 gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(m)

Llwybrau DysguLL+C

43Y ddogfen llwybr dysguLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu dogfen sy'n cofnodi ei lwybr dysgu i ddisgybl perthnasol neu fyfyriwr perthnasol (“dogfen llwybr dysgu”).

(2)Yn is-adran (1), ystyr “llwybr dysgu” disgybl neu fyfyriwr yw—

(a)y cyrsiau astudio (os oes rhai) y mae gan y disgybl neu'r myfyriwr hawlogaeth i'w dilyn o dan F1... adran 33F(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000; a

(b)y gwasanaethau cymorth i ddysgwyr (os oes rhai) sydd i'w darparu i ddisgybl neu fyfyriwr yn rhinwedd adran 40 o'r Mesur hwn.

(3)Rhaid i'r ddogfen llwybr dysgu—

(a)cael ei darparu o fewn cyfnod amser rhesymol yn dilyn hawlogaeth sy'n codi yn y modd a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) neu benderfyniad sy'n cael ei wneud i ddarparu gwasanaethau fel a ddisgrifir yn is-adran (2)(b); a

(b)cael ei diwygio neu ei hailddyroddi o fewn cyfnod amser rhesymol—

(i)ar ôl amrywiad yn yr hawlogaeth honno neu'r penderfyniad hwnnw; neu

(ii)ar ôl i'r hawlogaeth honno godi neu i'r penderfyniad hwnnw gael ei wneud.

(4)Mae'r ddyletswydd i ddarparu dogfen llwybr dysgu o dan is-adran (3)(a) yn ddyletswydd—

(a)yn achos disgybl perthnasol, ar bennaeth ysgol a gynhelir y disgybl pan fo achlysur a ddisgrifiwyd yn is-adran (3)(a) yn digwydd; a

(b)yn achos myfyriwr perthnasol, ar bennaeth sefydliad y myfyriwr pan fo achlysur a ddisgrifiwyd yn is-adran (3)(a) yn digwydd.

(5)Mae'r ddyletswydd i ddiwygio neu ailddyroddi dogfen llwybr dysgu o dan is-adran (3)(b) yn ddyletswydd—

(a)yn achos disgybl perthnasol, ar bennaeth ysgol a gynhelir y disgybl pan fo achlysur a ddisgrifiwyd yn is-adran (3)(b) yn digwydd; a

(b)yn achos myfyriwr perthnasol, ar bennaeth sefydliad y myfyriwr pan fo achlysur a ddisgrifiwyd yn is-adran (3)(b) yn digwydd.

(6)Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir a phennaeth sefydliad roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 43 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49(2)

I8A. 43 mewn grym ar 7.12.2009 gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(n)

44Llwybrau dysgu: dehongliLL+C

Yn yr adran hon ac yn adran 43—

Darparu gwybodaeth am y cwricwlwmLL+C

45Darparu gwybodaeth am y cwricwlwmLL+C

(1)Mae Deddf Addysg 1997 (p.44) wedi'i diwygio yn unol â'r adran hon.

(2)Ar ôl adran 45A mewnosoder—

45BProvision of curriculum information

(1)Subject to subsections (2) and (3), a service provider may demand from a person mentioned in subsection (6) such curriculum information as is specified in the demand.

(2)A service provider must not demand any curriculum information unless the provider reasonably considers that the information would assist it in providing its services.

(3)A service provider must not demand any curriculum information which identifies, or allows to be identified, any pupil or student.

(4)A person mentioned in subsection (6) must comply with a demand made under subsection (1) by providing the service provider with the information demanded.

(5)A service provider may publish in whatever form it sees fit any curriculum information provided under subsection (4).

(6)The persons referred to in subsection (1) are—

(a)the governing body and head teacher of a school in Wales falling within section 43(2)(a); and

(b)the governing body and principal of an institution within the further education sector in Wales.

(7)In this section—

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 45 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 49(2)

I12A. 45 mewn grym ar 7.12.2009 gan O.S. 2009/3174, ergl. 2(1)(p)