xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Cynllunio gwelliannau a gwybodaeth am welliannauLL+C

13Casglu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiadLL+C

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau ar gyfer—

(a)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol yr amcanion gwella hynny a osodwyd o dan adran 3(1) ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—

(i)mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(a) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;

(ii)asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hynny a bennwyd o dan adran 8(1)(b) ac sy'n gymwys i'r awdurdod am y flwyddyn honno;

(c)casglu gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddo wneud y canlynol—

(i)mesur ei berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(ii)asesu a yw wedi cyrraedd yn ystod blwyddyn ariannol y safonau perfformiad hunanosodedig hynny sy'n gymwys i'r flwyddyn honno.

(2)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 14 a 15—

(a)mae dangosydd perfformiad hunanosodedig yn ffactor y mae awdurdod gwella Cymreig, drwy gyfeirio ato, wedi penderfynu ei ddefnyddio i fesur ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a

(b)mae safon perfformiad hunanosodedig yn safon y mae awdurdod gwella Cymreig wedi penderfynu ei chyrraedd mewn perthynas â dangosydd perfformiad hunanosodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

14Defnyddio gwybodaeth am berfformiadLL+C

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig ddefnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i gymharu ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hwy â'r canlynol—

(a)ei berfformiad wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(b)cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol bosibl, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill wrth arfer y swyddogaethau hynny neu rai tebyg yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi ac yn ystod blynyddoedd ariannol blaenorol.

(2)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig—

(a)defnyddio'r wybodaeth y mae'n ei chasglu o dan adran 13 i asesu a allai wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau; a

(b)yng ngoleuni'r asesiad hwnnw, penderfynu pa gamau y bydd yn eu cymryd gyda golwg ar wella ei berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau.

(3)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan yr adran hon ac adran 13, rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

15Cynllunio gwelliannau a chyhoeddi gwybodaeth am welliannauLL+C

(1)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig wneud trefniadau yn unol â'r adran hon ar gyfer cyhoeddi'r wybodaeth a ddisgrifir isod.

(2)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi—

(a)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn ystod blwyddyn ariannol—

(i)o ran cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 2;

(ii)o ran cyrraedd yr amcanion gwella y mae wedi'u gosod iddo'i hun o dan adran 3 ac sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iii)drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(a) a dangosyddion perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(iv)o ran cyrraedd y safonau perfformiad a bennwyd o dan adran 8(1)(b) a safonau perfformiad hunanosodedig sy'n gymwys i'r flwyddyn honno;

(b)asesiad yr awdurdod o'i berfformiad wrth arfer ei swyddogaethau yn ystod blwyddyn ariannol o gymharu'r perfformiad hwnnw â'r canlynol—

(i)ei berfformiad yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; a

(ii)cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, perfformiad awdurdodau gwella Cymreig eraill ac awdurdodau cyhoeddus eraill yn ystod y flwyddyn ariannol honno a blynyddoedd ariannol blaenorol (i'r graddau y mae'r awdurdodau hynny'n arfer swyddogaethau sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu harfer gan yr awdurdod);

(c)manylion am y ffyrdd y mae'r awdurdod wedi arfer ei bwerau cydlafurio yn ystod blwyddyn ariannol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) yn ystod y flwyddyn honno neu ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni'r dyletswyddau hynny;

(d)manylion am yr wybodaeth a gasglwyd o dan adran 13 mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol a'r hyn y mae'r awdurdod wedi'i wneud i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 14 mewn perthynas â'r flwyddyn honno.

(3)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(4)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi crynodeb o unrhyw adroddiad mewn cysylltiad â'r awdurdod a ddyroddir o dan adran 22.

(5)Rhaid i'r trefniadau hynny gael eu ffurfio fel bod y crynodeb yn cael ei gyhoeddi cyn—

(a)31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr un y cafodd yr adroddiad ei ddyroddi ynddi; neu

(b)unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(6)Rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi disgrifiad o gynlluniau'r awdurdod ar gyfer cyflawni ei ddyletswyddau o dan adrannau 2(1), 3(2) a 8(7) mewn blwyddyn ariannol a hynny, os gwêl yr awdurdod yn dda, ynghyd â'i gynlluniau ar gyfer y blynyddoedd dilynol (“cynllun gwella”).

(7)Rhaid i'r trefniadau gael eu ffurfio fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi; neu

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw ddyddiad arall a gaiff ei bennu gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(8)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch cyflawni ei ddyletswyddau o dan yr adran hon.

(9)Heb leihau neu estyn effaith natur gyffredinol is-adran (8), caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran honno fynd i'r afael â'r canlynol—

(a)y modd y mae asesiadau o berfformiad i'w cynnal;

(b)gwneud cynllun gwella, gan gynnwys yr weithdrefn sydd i'w dilyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 15 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I5A. 15(1)(6) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I6A. 15(2)-(5) mewn grym ar 1.4.2011 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/3272, ergl. 4, Atod. 3

I7A. 15(7) mewn grym ar 1.1.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1

I8A. 15(7) mewn grym ar 1.4.2010 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2

I9A. 15(8)(9) mewn grym ar 17.7.2009 gan O.S. 2009/1796, ergl. 2(h)