xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWELLA LLYWODRAETH LEOL

Swyddogaethau eraill Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

26Pwerau a dyletswyddau arolygwyrLL+C

(1)Mae gan arolygydd hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre sydd gan awdurdod gwella Cymreig, a

(b)i weld unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r awdurdod ac sy'n ymddangos yn angenrheidiol i'r arolygydd at ddibenion yr arolygiad, yr archwiliad neu'r asesiad.

(2)Mae'r hawl a roddir gan is-adran (1) yn cynnwys hawl i arolygu neu gopïo'r ddogfen neu i fynd â hi oddi yno.

(3)Caiff arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n dal unrhyw ddogfen o'r fath neu sy'n atebol amdani roi unrhyw wybodaeth neu esboniad i'r arolygydd sy'n angenrheidiol yn ei farn ef, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ddod yn bersonol ger ei fron i roi'r wybodaeth neu'r esboniad neu i ddangos y ddogfen.

(4)Mewn perthynas â dogfen a gedwir ar ffurf electronig, mae'r pŵer yn is-adran (3)(b) i'w gwneud yn ofynnol i berson ddangos dogfen yn cynnwys pŵer i'w gwneud yn ofynnol iddi gael ei dangos ar ffurf sy'n ddarllenadwy ac y gellir mynd â hi oddi yno.

(5)Mewn cysylltiad ag arolygu dogfen o'r fath, caiff arolygydd—

(a)sicrhau mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig y mae'n credu eu bod yn cael neu wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (6) roi unrhyw gymorth rhesymol y bydd ar yr arolygydd ei angen at y diben hwnnw.

(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os ef yw'r person sy'n defnyddio neu a ddefnyddiodd y cyfrifiadur, neu os defnyddir neu defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran; neu

(b)os yw'n berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'i weithredu.

(7)Rhaid i awdurdod gwella Cymreig roi i arolygydd bob cyfleuster a phob gwybodaeth y mae ar yr arolygydd angen rhesymol ei gael neu ei chael at ddibenion yr arolygiad neu'r asesiad.

(8)Rhaid i arolygydd—

(a)oni bai bod yr amgylchiadau, ym marn yr arolygydd, yn eithriadol roi tri diwrnod clir o rybudd am unrhyw ofyniad o dan yr adran hon, a

(b)os gofynnir i'r arolygydd wneud hynny, dangos dogfennau sy'n nodi bod yr arolygydd yn berson ag awdurdod i osod gofynion o dan yr adran hon.

(9)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn atal unrhyw bŵer a roddir gan yr adran hon rhag cael ei arfer neu sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad gan arolygydd o dan yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(10)Gellir adennill unrhyw dreuliau yr â arolygydd iddynt mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan is-adran (9) yr honnir ei fod wedi'i gyflawni mewn perthynas ag arolygiad o awdurdod gwella Cymreig wrth yr awdurdod hwnnw, i'r graddau nad oes modd eu hadennill o unrhyw ffynhonnell arall.

(11)Yn yr adran hon ystyr “arolygydd” yw Archwilydd Cyffredinol Cymru, [F1neu berson sy’n arfer swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd dirprwyaeth a wnaed o dan adran 18 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,] ac sy'n cynnal archwiliad o dan adran 17, asesiad o dan adran 18 neu arolygiad arbennig.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 26 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (1.4.2010) gan 2004 c. 21, a. 24(4)(5) (mewnosodwyd gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (nawm 2), a. 53(2), Atod. 1 para. 33; O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2