Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

[F127APŵer Gweinidogion Cymru i ragnodi graddfa ffioeddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd i gael effaith yn lle graddfa neu raddfeydd a ragnodir gan Swyddfa Archwilio Cymru o dan adran 27(1),

(2)Mae graddfa ffioedd a ragnodir o dan is-adran (1) yn caeleffaith am y cyfnod a bennir mewn perthynas â hi yn y rheoliadau.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os oes graddfa ffioedd yn cael ei rhagnodi o dan is-adran (1) yn lle graddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, a

(b)os mai’r raddfa a ragnodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fyddai’r raddfa briodol, fel arall, at ddibenion adran 27(3) a (4).

(4)Mae’r cyfeiriadau at y raddfa briodol yn adran 27(3) a (4) i’w darllen fel cyfeiriadau at y raddfa a ragnodwyd o dan is-adran (1).

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)Swyddfa Archwilio Cymru,

(b)unrhyw gymdeithasau cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod a wnelont â’r peth, ac

(c)y personau eraill hynny y maent yn gweld yn dda i ymgynghori â hwy.

(6)Mae rheoliadau a wneir o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w diddymu yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.]