Pwerau Ymchwilio'r Comisiynydd

I116Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth

1

Ac eithrio fel y caniateir gan is-adran (2), rhaid i'r Comisiynydd neu staff y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall a benodir gan y Comisiynydd beidio â datgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn y gŵyn nac unrhyw wybodaeth a roddir iddynt neu a sicrheir ganddynt yn ystod ymchwiliad i'r gŵyn honno, neu at ddibenion yr ymchwiliad hwnnw.

2

Caniateir i wybodaeth felly gael ei datgelu er mwyn —

a

galluogi neu helpu'r Comisiynydd i gyflawni unrhyw swyddogaethau a osodir ar y Comisiynydd neu a roddir iddo yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn,

b

galluogi'r Comisiynydd i gydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir ar y Comisiynydd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad arall, neu

c

ymchwilio i unrhyw dramgwydd neu dramgwydd a amheuir neu eu herlyn.