Mesur Addysg (Cymru) 2009

2009 nawm 5

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth i blant gael hawl i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig, a hawl i wneud hawliad mewn cysylltiad â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion, i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru; i wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig a gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion: gwasanaethau cynghori a rhoi gwybodaeth, trefniadau ar gyfer datrys anghydfodau ac eithrio drwy apelau a hawliadau i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, a gwasanaethau eirioli annibynnol; i wneud darpariaeth ar gyfer treialu darpariaethau Rhan 1 o'r Mesur hwn; i wneud darpariaeth ynghylch y cwricwlwm mewn ysgolion yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.