xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

23Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

I2A. 23 mewn grym ar 10.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/320, ergl. 2(i)

I3A. 23 mewn grym ar 6.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/320, ergl. 3(l)

24Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

F1(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol yn cynnwys gorchymyn o dan adran F2... 20 onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

F325Gorchmynion o dan adran 18: y weithdrefnLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

26CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor—

(2)Daw paragraffau 10 i 12 o'r Atodlen i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn [F4(gan gynnwys, yn achos darpariaethau a ddiwygiwyd gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011, y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd)] i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 26 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)

27Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 27 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)