Mesur Addysg (Cymru) 2009

RHAN 2LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Diwygiadau i Ran 7 o Ddeddf Addysg 2002LL+C

F121Y cyfnod sylfaenLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1A. 21 wedi ei hepgor (30.4.2021) yn rhinwedd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 61 (ynghyd â arbedion a darpariaethau trosiannol yn O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

Diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000LL+C

22Hawliau mewn perthynas â'r cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oedLL+C

(1)Diwygir Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) yn unol â'r adran hon.

(2)Yn adran 33F(1)(a), yn lle “ceases to be” rhodder “was not at the beginning of the entitlement period, or subsequently ceases to be,”.

(3)Yn lle'r diffiniad o “academic year” yn adran 33N(1) rhodder y canlynol—

  • “academic year” means the period beginning on the fourth Monday of September in any year and ending on the first day of September in the following year;.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

I2A. 22 mewn grym ar 1.9.2011 gan O.S. 2011/1951, ergl. 2

CyffredinolLL+C

23Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 26(3)

I4A. 23 mewn grym ar 10.2.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/320, ergl. 2(i)

I5A. 23 mewn grym ar 6.3.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/320, ergl. 3(l)

24Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sy'n perthyn i Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, darfodol, trosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

F2(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol yn cynnwys gorchymyn o dan adran F3... 20 onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

F425Gorchmynion o dan adran 18: y weithdrefnLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

26CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor—

  • adran 24,

  • adran 25,

  • yr adran hon,

  • adran 27.

(2)Daw paragraffau 10 i 12 o'r Atodlen i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(3)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn [F5(gan gynnwys, yn achos darpariaethau a ddiwygiwyd gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011, y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd)] i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 26 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)

27Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 27 mewn grym ar 9.2.2010, gweler a. 26(1)