RHAN 2GWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Amddiffyn mewn argyfwng

I1I334Amddiffyn plant mewn argyfwng: diddymu cofrestriad

1

O ran person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i ynad heddwch am orchymyn yn diddymu cofrestriad y person.

2

Os yw'n ymddangos i'r ynad bod plentyn y mae'r person hwnnw yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, neu y gallai'r person hwnnw fod yn ei warchod neu'n darparu gofal dydd iddo, a bod y plentyn yn dioddef niwed arwyddocaol, neu'n debygol o wneud hynny, caniateir i'r ynad wneud y gorchymyn.

3

Caniateir i gais o dan is-adran (1) gael ei wneud heb hysbysiad.

4

O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

a

rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a

b

bydd yn effeithiol o'r amser y gwneir ef.

5

Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gorchymyn—

a

copi o'r gorchymyn,

b

copi o unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn cefnogi'r cais am y gorchymyn, ac

c

hysbysiad o unrhyw hawl i apelio a roddir gan adran 37(2).

6

Caniateir cyflwyno'r dogfennau a grybwyllir yn is-adran (5) i'r person cofrestredig—

a

drwy eu traddodi i'r person, neu

b

drwy eu hanfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

7

Os gwneir gorchymyn o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gwneud y gorchymyn, hysbysu'r awdurdod lleol y mae neu yr oedd y person yn gweithredu neu wedi gweithredu yn ei ardal fel gwarchodwr plant, neu'n darparu neu wedi darparu gofal dydd ynddi, bod y gorchymyn wedi'i wneud.

8

At ddibenion yr adran hon ac adran 35, mae i “niwed” yr ystyr sydd i “harm” yn Neddf Plant 1989 (p. 41) ac mae'r cwestiwn a yw niwed yn arwyddocaol yn un sydd i'w benderfynu yn unol ag adran 31(10) o'r Ddeddf honno.

I2I435Amddiffyn plant mewn argyfwng: newidiadau i amodau

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

os yw person wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon, a

b

os oes gan Weinidogion Cymru achos rhesymol i gredu oni fyddant yn gweithredu o dan yr adran hon y bydd plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed arwyddocaol.

2

Os yw'r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, drwy roi hysbysiad o dan yr adran hon i'r person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon, ddarparu bod unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru a grybwyllir yn is-adran (3) i gael effaith o'r amser pan roddir yr hysbysiad.

3

Y penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw penderfyniadau o dan adran 29 i amrywio neu dynnu i ffwrdd amod sydd ar y pryd mewn grym o ran y cofrestriad neu i osod amod ychwanegol.

4

Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon i berson—

a

drwy ei draddodi i'r person, neu

b

drwy ei anfon drwy'r post i gyfeiriad hysbys diwethaf y person.

5

Rhaid i'r hysbysiad—

a

datgan ei fod yn cael ei roi o dan yr adran hon,

b

datgan rhesymau Gweinidogion Cymru dros gredu bod yr amgylchiadau'n dod o fewn is-adran (1)(b),

c

pennu'r amod a gafodd ei amrywio, ei dynnu i ffwrdd neu ei osod, ac esbonio'r hawl i apelio a roddir gan adran 37.