Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Cofrestru gofal dydd i blantLL+C

22Cofrestr o ddarparwyr gofal dydd i blantLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr (“cofrestr gofal dydd i blant”) o bob person sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant o dan y Rhan hon ac o'r mangreoedd y maent wedi eu hawdurdodi i'w ddarparu ynddynt o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 22 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

23Dyletswydd darparwyr gofal dydd i gofrestruLL+C

(1)Rhaid i berson beidio â darparu gofal dydd i blant mewn unrhyw fangre yng Nghymru oni bai bod y person hwnnw wedi'i gofrestru i ddarparu gofal dydd i blant yn y fangre honno gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon.

(2)Mae person sy'n mynd yn groes i is-adran (1) heb esgus rhesymol yn cyflawni tramgwydd.

(3)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 23 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)