xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

Y broses gofrestru a gofynion cofrestruLL+C

24Ceisiadau i gofrestru: gwarchod plantLL+C

(1)Caiff person sy'n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel gwarchodwr plant.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 24 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

25Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plantLL+C

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel gwarchodwr plant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gwasanaeth gwarchod plant ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gwarchod plant yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson a all fod yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 25 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

26Ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blantLL+C

(1)Caiff person sy'n bwriadu darparu gofal dydd i blant mewn mangre benodol wneud cais i Weinidogion Cymru i gofrestru fel darparydd gofal dydd yn y fangre honno.

(2)Rhaid i gais—

(a)rhoi unrhyw wybodaeth a ragnodwyd am faterion a ragnodwyd,

(b)rhoi unrhyw wybodaeth arall y gall Gweinidogion Cymru yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ei rhoi, ac

(c)cynnwys gydag ef unrhyw ffi a ragnodwyd.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu cais—

(a)os na chafodd y ceisydd ei anghymwyso rhag cofrestru o dan adran 38, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr holl ofynion rhagnodedig i gofrestru darparwyr gofal dydd wedi eu bodloni a'u bod yn debygol o barhau i fod wedi eu bodloni.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod unrhyw gais o dan is-adran (1) nad yw is-adran (3) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 26 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I6A. 26 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

27Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru darparwyr gofal dydd i blantLL+C

Caiff y gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru fel darparwyr gofal dydd i blant gynnwys gofynion sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)y ceisydd;

(b)y fangre y darperir y gofal dydd ynddi;

(c)y trefniadau ar gyfer gofal dydd yn y fangre honno;

(d)unrhyw berson a all fod yn gofalu am blant yn y fangre honno;

(e)unrhyw berson arall a all fod yn y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 27 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I8A. 27 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

28Cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifauLL+C

(1)Os caiff cais o dan adran 24(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn y gofrestr gwarchodwyr plant fel gwarchodwr plant, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan bod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(2)Os caiff cais o dan adran 26(1) ei ganiatáu, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cofrestru'r ceisydd yn ddarparydd gofal dydd ynglŷn â'r fangre o dan sylw, a

(b)rhoi tystysgrif gofrestru i'r ceisydd yn datgan fod y ceisydd wedi'i gofrestru.

(3)Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan is-adran (1) neu (2) gynnwys gwybodaeth a ragnodwyd ynghylch materion a ragnodwyd.

(4)Os oes newid yn yr amgylchiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio tystysgrif gofrestru, rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r person cofrestredig dystysgrif ddiwygiedig.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod tystysgrif gofrestru wedi cael ei cholli neu ei difa, rhaid i Weinidogion Cymru roi copi i'r person cofrestredig, pan fydd y person cofrestredig yn talu'r ffi a ragnodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 28 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I10A. 28 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

29Amodau wrth gofrestruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru osod y cyfryw amodau ag y gwelant yn dda eu gwneud wrth gofrestru unrhyw berson o dan y Rhan hon sy'n gweithredu fel gwarchodwr plant neu berson sy'n darparu gofal dydd i blant.

(2)Caniateir i'r pŵer hwn gael ei arfer ar unrhyw adeg pan fydd Gweinidogion Cymru yn cofrestru person o dan adran 24 neu adran 26 neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg amrywio neu dynnu i ffwrdd unrhyw amod a osodwyd o dan yr adran hon.

(4)Mae person sydd wedi'i gofrestru o dan y Rhan hon yn cyflawni tramgwydd os bydd y person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a osodir o dan yr adran hon.

(5)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (4) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 29 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I12A. 29 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)lles a datblygiad y plant o dan sylw;

(b)addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;

(c)cymwysterau a hyfforddiant;

(d)mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;

(e)cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;

(f)y gweithdrefnau i drafod cwynion;

(g)goruchwylio staff;

(h)cadw cofnodion;

(i)darparu gwybodaeth.

(3)Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—

(a)gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a

(b)bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 30 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I14A. 30 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)