RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN
PENNOD 1DILEU TLODI PLANT
Strategaethau
I13Strategaethau a lunnir gan Weinidogion Cymru
1
O ran Gweinidogion Cymru—
a
rhaid iddynt gyhoeddi eu strategaeth gyntaf o dan y Rhan hon yn 2010,
b
rhaid iddynt gadw golwg ar eu strategaeth yn gyson, ac
c
cânt o bryd i'w gilydd ail-lunio neu adolygu eu strategaeth.
2
Cyn llunio, ail-lunio neu adolygu eu strategaeth, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—
a
yr Ysgrifennydd Gwladol, a
b
y personau eraill hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.
3
Nid yw darpariaethau is-adran (2)(a) i'w dehongli fel pe baent yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'n gosod dyletswydd arno.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth pan fyddant yn ei llunio a phryd bynnag y byddant yn ei hail-lunio; ac os byddant yn adolygu'r strategaeth heb ei hail-lunio, rhaid iddynt gyhoeddi naill ai'r diwygiadau neu'r strategaeth fel y'i diwygiwyd (fel y maent yn barnu sy'n briodol).
5
Os bydd Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi strategaeth neu ddiwygiadau o dan is-adran (4) rhaid iddynt osod copi o'r strategaeth neu'r diwygiadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Rhaid i Weinidogion Cymru yn 2013, ac ym mhob trydedd blwyddyn ar ôl 2013—
a
cyhoeddi adroddiad sy'n cynnwys asesiad—
i
i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion sydd yn eu strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant, a
ii
os na chyflawnwyd un o'r amcanion, i ba raddau y gwnaed cynnydd tuag at gyflawni'r amcan;
b
gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.