Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

30Rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n llywodraethu gweithgareddau personau cofrestredig sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant, neu'n darparu gofal dydd, mewn mangre yng Nghymru.

(2)Caiff y rheoliadau o dan yr adran hon ymdrin â'r materion canlynol (ymhlith eraill)—

(a)lles a datblygiad y plant o dan sylw;

(b)addasrwydd i ofalu am y plant o dan sylw, neu fod mewn cyswllt rheolaidd â hwy;

(c)cymwysterau a hyfforddiant;

(d)mwyafswm nifer y plant y caniateir iddynt dderbyn gofal a nifer y personau sy'n ofynnol i gynorthwyo i ofalu amdanynt;

(e)cynnal a chadw, diogelwch ac addasrwydd y fangre a'r cyfarpar;

(f)y gweithdrefnau i drafod cwynion;

(g)goruchwylio staff;

(h)cadw cofnodion;

(i)darparu gwybodaeth.

(3)Os yw'r rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson (heblaw Gweinidogion Cymru) roi sylw i neu fodloni ffactorau, safonau neu faterion eraill a ragnodwyd gan y rheoliadau neu y cyfeirir atynt yn y rheoliadau, cânt hefyd ddarparu bod unrhyw honiad bod person wedi methu â gwneud hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth—

(a)gan Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon, neu

(b)mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Rhan hon.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)bod person cofrestredig sydd heb esgus rhesymol yn mynd yn groes i unrhyw ofyniad yn y rheoliadau, neu fel arall yn methu â chydymffurfio ag ef, yn euog o dramgwydd; a

(b)bod person sy'n euog o'r tramgwydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 30 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)