Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

33Tynnu oddi ar y gofrestr yn wirfoddolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff person a gofrestrwyd o dan y Rhan hon hysbysu Gweinidogion Cymru i dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(2)Os bydd person yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r person hwnnw oddi ar y gofrestr gwarchod plant neu (yn ôl y digwydd) y gofrestr gofal dydd i blant.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn dal i fwriadu cymryd y cam hwnnw.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad at y person (o dan adran 36) o'u bwriad i ddiddymu cofrestriad y person hwnnw, a

(b)os nad yw'r amser y gellir dwyn apêl o dan adran 37 wedi dod i ben neu, os gwnaed y cyfryw apêl, na chafodd ei phenderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 33 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)