xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CGWARCHOD PLANT A GOFAL DYDD I BLANT

AmrywiolLL+C

56Marwolaeth person cofrestredigLL+C

(1)Caiff rheoliadau—

(a)darparu bod darpariaethau'r Rhan hon i fod yn gymwys gydag addasiadau rhagnodedig mewn achosion lle y mae person, sef yr unig berson a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â busnes gofal dydd, wedi marw;

(b)ei gwneud yn ofynnol bod cynrychiolwyr personol person a fu farw a oedd wedi'i gofrestru ynglŷn â gwarchod plant neu ofal dydd i blant yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'r farwolaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(a) yn benodol—

(a)darparu bod y busnes gofal dydd yn cael ei gyflawni am gyfnod rhagnodedig gan berson na chafodd ei gofrestru ar ei gyfer; a

(b)cynnwys darpariaeth y gellir estyn y cyfnod rhagnodedig gan y cyfryw gyfnod pellach ag a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 56 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)