RHAN 1TLODI PLANT, CYFLEOEDD CHWARAE A CHYMRYD RHAN

PENNOD 1DILEU TLODI PLANT

Gwasanaethau i fynd i'r afael â thlodi plant

I19Gwasanaethau cymorth iechyd: pwerau awdurdod lleol

1

Caiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu.

2

Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau nyrsio, sicrhau eu darparu neu gymryd rhan wrth eu darparu o dan is-adran (1) ar gyfer unrhyw ran o'i ardal heb gydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y rhan honno o'i ardal.

3

Ni chaiff awdurdod lleol godi tâl am unrhyw beth a ddarperir o dan is-adran (1).

4

Yn yr adran hon ac yn adran 10, ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd” yw gwasanaethau sy'n darparu cymorth mewn perthynas â iechyd plant neu rieni plant (i'r graddau y maent yn angenrheidiol i sicrhau llesiant eu plant), ar wahân i gymorth sy'n golygu darparu gwasanaethau meddygol, deintyddol, offthalmig, neu fferyllol.