ATODLEN 2TALU

RHAN 1CYFRIFO ARDOLL A THALU

I1I23

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu cyfradd yr elfen gynhyrchu a'r elfen gigydda neu allforio.

2

Caiff Gweinidogion Cymru bennu gwahanol gyfraddau ar gyfer gwahanol achosion (gan gynnwys gwahanol ddisgrifiadau o gigyddwr neu allforiwr a gwahanol ddisgrifiadau o anifail).

3

Caiff y cyfraddau a bennir o dan y paragraff hwn gynnwys cyfradd o ddim, ond ni chânt fod yn uwch na'r cyfraddau uchaf a nodir yn yr Atodlen hon.