Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

13Cyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achosLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caniateir i achos am dramgwydd o dan y Mesur hwn gael ei ddwyn ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o 6 mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos yn hysbys iddo.

(2)Ond ni chaniateir cychwyn achos fwy na 2 flynedd ar ôl dyddiad cyflawni'r tramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)