Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

6Pŵer i wneud darpariaeth ynglŷn ag ardollau sydd i'w gosod mewn perthynas â phersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Cyfrifir ardoll sy'n cael ei gosod ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig am unrhyw gyfnod drwy gyfeirio at nifer y gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth bellach ynglŷn ag ardollau sydd i'w gosod ar bersonau sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth ynglŷn â—

(a)cyfraddau ac elfennau ardoll, a sut y mae ardollau i gael eu cyfrifo;

(b)sut y mae ardollau i gael eu dal a'u talu;

(c)tramgwyddau am beidio â chydymffurfio;

(d)eithriadau rhag talu ardoll mewn amgylchiadau penodol;

(e)gweithdrefnau sy'n ymwneud â gosod (gan gynnwys hysbysu personau sy'n atebol i dalu ardoll o'r swm sy'n ddyledus ganddynt) a thalu neu gasglu ardollau.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud unrhyw ddiwygiadau i'r Mesur hwn sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn angenrheidiol neu'n hwylus mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaethau a wneir o dan is-adran (2).

(4)Yn y Mesur hwn ystyr “gwartheg, defaid neu foch y gellir codi ardoll amdanynt” (“chargeable cattle, sheep or pigs”), mewn perthynas â pherson sy'n cyflawni gweithgaredd cynradd dynodedig neu weithgaredd eilaidd dynodedig ac am unrhyw gyfnod y mae ardoll yn cael ei gosod ar ei gyfer, yw gwartheg, defaid neu foch y mae'r gweithgaredd hwnnw'n cael ei gyflawni mewn perthynas â hwy yn y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I2A. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)