I1I29Darparu gwybodaeth
1
Rhaid i bersonau sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn—
a
cadw cofnodion digonol i alluogi Gweinidogion Cymru ganfod faint o ardoll sy'n ddyledus; a
b
dangos y cofnodion hynny i un o swyddogion Gweinidogion Cymru os gofynnir iddynt wneud hynny.
2
Mae person sy'n methu a chydymffurfio â gofynion yr adran hon yn euog o dramgwydd sy'n agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.