Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010

9Darparu gwybodaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bersonau sy'n atebol i dalu ardoll o dan y Mesur hwn—

(a)cadw cofnodion digonol i alluogi Gweinidogion Cymru ganfod faint o ardoll sy'n ddyledus; a

(b)dangos y cofnodion hynny i un o swyddogion Gweinidogion Cymru os gofynnir iddynt wneud hynny.

(2)Mae person sy'n methu a chydymffurfio â gofynion yr adran hon yn euog o dramgwydd sy'n agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 18(2)

I2A. 9 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2011/2802, ergl. 2(2) (ynghyd ag erglau. 3, 4)