(a gyflwynir gan adran 6(3))

ATODLEN 2LL+CPENODI AELODAU'R BWRDD

1LL+CRhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.

2LL+CCaiff y trefniadau hynny—

(a)eu diwygio o dro i dro, a

(b)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

3LL+CO ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—

(a)nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a

(b)eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

4LL+CRhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y [F1Senedd] yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

5LL+CRhaid i Gomisiwn y [F2Senedd] benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)

6LL+CNid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y [F2Senedd] fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 22.7.2010, gweler a. 20(2)