ATODLEN 1ANGHYMWYSO RHAG BOD YN AELOD O'R BWRDD
I11
Mae'r personau canlynol wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd—
a
F3Aelod o’r Senedd,
b
y Cwnsler Cyffredinol (os nad yw'n F3Aelod o’r Senedd),
c
ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd,
d
person y gallai fod angen i'w enw, pe bai sedd F6Aelod rhanbarthol o’r Senedd yn dod yn wag, gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf (seddi gwag mewn rhanbarthau etholiadol),
e
aelod o Senedd Ewrop, Tŷ'r Cyffredin, F1... Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon,
f
aelod o staff y F4Senedd,
g
aelod o staff Llywodraeth F7... Cymru,
h
i
Archwilydd Cyffredinol Cymru,
j
Comisiynydd Safonau F9y Senedd,
k
aelod o Bwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol Comisiwn y F4Senedd,
l
person sy'n dal apwyntiad fel Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn y F4Senedd,
F2m
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
n
person sy'n dal apwyntiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol Llywodraeth F10... Cymru.
I22
At ddibenion paragraff 1(c) daw person yn ymgeisydd i'w ethol yn F3Aelod o’r Senedd—
a
ar y diwrnod y datgenir bod y person hwnnw'n ymgeisydd (boed gan y person o dan sylw neu gan eraill ), neu
b
ar y diwrnod yr enwebir y person hwnnw'n ymgeisydd mewn etholiad i'r F4Senedd,
p'un bynnag fydd gyntaf.
I33
Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff 1(d), a allai fod angen i enw person gael ei hysbysu i'r Llywydd o dan adran 11 o'r Ddeddf, mae gofynion paragraffau (b) a (c) o is adran (3) o'r adran honno i'w hanwybyddu.
ATODLEN 2PENODI AELODAU'R BWRDD
I41
Rhaid i'r Clerc wneud trefniadau ar gyfer dethol ymgeiswyr i'w penodi'n Gadeirydd, ac yn aelodau eraill i'r Bwrdd.
I52
Caiff y trefniadau hynny—
a
eu diwygio o dro i dro, a
b
gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer penodiadau gwahanol a phenodiadau a wneir mewn amgylchiadau gwahanol.
I63
O ran y trefniadau hynny, rhaid i'r Clerc sicrhau—
a
nad ydynt yn cynnwys cyfraniad gan unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Clerc ei bod yn debyg yr effeithir arno wrth i'r Bwrdd arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, na chan unrhyw berson sy'n gysylltiedig â pherson o'r fath, a
b
eu bod, yn ddarostyngedig i is-baragraff (a), yn rhoi sylw priodol i'r egwyddor y dylid cael cyfle cyfartal i bawb.
I74
Rhaid i'r Clerc beidio â rhoi eu heffaith i'r trefniadau mewn perthynas â phenodiad penodol oni bai eu bod wedi'u cyhoeddi ar wefan y F5Senedd yn gyntaf a'u bod yn parhau i gael eu cyhoeddi tra bo'r broses o ddewis person i'w benodi i'r swydd yn mynd rhagddi.
I85
Rhaid i Gomisiwn y F4Senedd benodi'n Gadeirydd, neu'n aelod o'r Bwrdd, yn ôl fel y digwydd, unrhyw berson a ddetholir, yn unol â'r trefniadau hyn, i'w benodi i'r swydd honno.
I96
Nid yw paragraff 3 yn gymwys os yw'n ymddangos i Gomisiwn y F4Senedd fod y person o dan sylw wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Bwrdd o dan adran 3.
ATODLEN 3DIWYGIO DEDDF LLYWODRAETH CYMRU 2006
Adran 20
I101
Yn adran 20(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.
I112
Yn adran 20(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
I123
Yn adran 20(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
I134
Yn lle adran 20(6) rhowch—
6
Provision under this section is to be made by determination made by the Board.
I145
Ar ôl adran 20(6) rhowch—
7
The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.
8
In this section (and in sections 22, 24, 53 and 54) “the Board” means the National Assembly for Wales Remuneration Board established by section 1 of the National Assembly for Wales (Remuneration) Measure 2010 (nawm 4 —).
Adran 22
I156
Yn adran 22(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission).”.
I167
Yn lle adran 22(3) rhowch—
3
The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 20(6) as soon as is reasonably practicable after it is made.
Adran 24
I178
Yn adran 24(1) hepgorwch “as the Assembly from time to time determines” ac yn ei le rhowch “as the Board from time to time determines”.
I189
Hepgorwch is-adran 24(4).
I1910
Yn lle is-adran 24(6) rhowch—
6
The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 24(1) as soon as is reasonably practicable after it is made.
I2011
Ar ôl is-adran 24(6) rhowch—
7
The Assembly Commission must ensure that information concerning the sums paid under this section is published for each financial year.
Adran 53
I2112
Yn adran 53(1) yn lle “The Assembly must make provision” rhowch “Provision must be made”.
I2213
Yn adran 53(2) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
I2314
Yn adran 53(3) yn lle “The Assembly may make provision” rhowch “Provision may be made”.
I2415
Yn lle adran 53(7) rhowch—
7
Provision under this section is to be made by determination made by the Board.
I2516
Ar ôl adran 53(7) rhowch—
8
The Assembly Commission must give effect to any determination made by the Board under this section.
Adran 54
I2617
Yn adran 54(2) yn lle “The Assembly” rhowch “The Assembly Commission” a hepgorwch “(and may, in particular, do so by requiring it to be published by the Assembly Commission)”.
I2718
Yn lle adran 54(3) rhowch—
3
The Assembly Commission must lay before the Assembly every determination made by the Board under section 53(7) as soon as is reasonably practicable after it is made.