2Annibyniaeth, bod yn agored ac yn gynhwysolLL+C
(1)Nid yw'r Bwrdd, wrth arfer ei swyddogaethau, i fod o dan gyfarwyddyd na rheolaeth y [F1Senedd] na Chomisiwn y [F1Senedd].
(2)Rhaid i'r Bwrdd—
(a)weithredu'n gyffredinol mewn modd agored a thryloyw, a
(b)cyhoeddi ar wefan y [F2Senedd] y cyfryw wybodaeth a fydd yn caniatáu i'r cyhoedd gael eu hysbysu am ei weithgareddau.
(3)Nid yw is-adran (2) yn atal y Bwrdd rhag ystyried mater yn breifat na rhag cadw ei ystyriaeth ar y mater hwnnw'n breifat os yw natur y mater hwnnw, ym marn y Bwrdd, yn golygu ei bod yn briodol gwneud hynny.
(4)Rhaid i'r Bwrdd, cyn arfer unrhyw rai o'i swyddogaethau, ymgynghori â'r personau a ganlyn y mae'n debyg yr effeithir arnynt, oni bai bod y Bwrdd yn credu bod amgylchiadau sy'n golygu ei bod yn amhriodol gwneud hynny—
(a)[F3Aelodau o’r Senedd],
(b)staff a gyflogir gan [F3Aelodau o’r Senedd] (neu gan [F3Aelodau o’r Senedd]),
(c)undebau llafur perthnasol, a
(d)unrhyw bersonau eraill y mae'n credu eu bod yn briodol.
(5)Rhaid i'r Bwrdd, wrth ymgynghori ag [F3Aelodau o’r Senedd], roi sylw i is-adran (1).
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Measure wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(12)
F2Gair yn a. 2(2)(b) wedi ei amnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 4(3)
F3Geiriau yn Measure wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), Atod. 1 para. 4(10) (ynghyd ag Atod. 1 para. 4(7)(8))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 mewn grym ar 24.9.2010 yn unol ag a. 20(3)(4) ac fel y nodir yn yr hysbysiad gofynnol, gweler https://senedd.cymru/media/1t3mmgav/gen-ld8227-e-cymraeg.pdf