I15Pŵer i ddiwygio Atodlen 1
1
Mae'r adran hon yn effeithiol os bydd y F1Senedd yn penderfynu y dylid diwygio Atodlen 1 er mwyn—
a
ychwanegu swydd neu ddisgrifiad o berson a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen honno,
b
dileu swydd neu ddisgrifiad o berson o'r fath, neu
c
newid disgrifiad swydd neu berson o'r fath.
2
Caiff y Cwnsler Cyffredinol, drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 1 er mwyn rhoi ei effaith i benderfyniad o'r fath.
3
Mae'r pŵer i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
4
Rhaid i'r Cwnsler Cyffredinol, pan y'i hysbysir yn ysgrifenedig gan y Llywydd bod y F1Senedd wedi gwneud penderfyniad o dan is-adran (1)—
a
arfer y pŵer a roddir iddo gan is-adran (2), a
b
gwneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.