RHAN 5CYFFREDINOL
I1I13I1841Cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol
1
Caiff y partneriaid iechyd meddwl lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 o'r Mesur hwn–
a
darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;
b
sefydlu a chynnal cronfa gyfun.
2
Caiff Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn–
a
roi staff, nwyddau, gwasanaethau, adeiladau neu adnoddau eraill i'w gilydd;
b
sefydlu a chadw cronfa gyfun.
3
At ddibenion is-adrannau (1) a (2) cronfa gyfun yw cronfa–
a
sy'n cael ei ffurfio o gyfraniadau gan bersonau a grybwyllir yn is-adrannau (1) a (2); a
b
y caniateir gwneud taliadau allan ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau o dan Rannau 1 i 3.
4
Caiff partneriaid iechyd meddwl lleol, os gwelant yn dda, arfer unrhyw un neu ragor o'u swyddogaethau o dan Rannau 1 a 3 ar y cyd.
I2I14I1942Rhannu gwybodaeth
1
Caiff partner iechyd meddwl lleol (partner 1) roi i bartner arall (partner 2)–
a
gwybodaeth a gafodd partner 1 wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 1 neu 3 o'r Mesur hwn; a
b
gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y darperir neu y gellid bod yn darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol iddo gan bartner 2 neu oedolyn y mae partner 2 yn arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Mesur hwn mewn perthynas ag ef.
2
Caiff awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru roi i'w gilydd wybodaeth–
a
y mae unrhyw un neu ragor ohonynt wedi ei chael wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn; a
b
sy'n ymwneud â chlaf perthnasol at ddibenion y Rhan honno.
3
Nid oes dim yn is-adran (1) neu (2) sy'n awdurdodi datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i unrhyw ddarpariaeth, neu a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth, yn y Mesur hwn neu yn unrhyw Fesur arall neu yn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud) sy'n atal datgelu'r wybodaeth.
4
Nid yw'r adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth.
F1I3I10I15I1743Diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I4I944Codau ymarfer
1
Caiff Gweinidogion Cymru baratoi, ac o bryd i'w gilydd adolygu, un neu ragor o godau ymarfer at y dibenion canlynol–
a
er mwyn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, cydgysylltwyr gofal neu unrhyw bersonau eraill mewn perthynas â'u swyddogaethau o dan y Mesur hwn;
b
er mwyn rhoi canllawiau i unrhyw bersonau mewn cysylltiad â gweithrediad darpariaethau'r Mesur hwn.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod unrhyw god o'r fath, neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu, yn cael ei gyhoeddi.
3
Wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) roi sylw i unrhyw god ymarfer a gyhoeddir o dan yr adran hon.
4
Cyn paratoi neu adolygu unrhyw god o'r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae Gweinidogion Cymru'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copïau o unrhyw god o'r fath neu unrhyw god o'r fath sydd wedi ei adolygu gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio penderfyniad yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod gael ei dynnu'n ôl, rhaid i Weinidogion Cymru dynnu'r cod yn ôl.
6
Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru basio penderfyniad ynghylch cod neu god wedi ei adolygu o dan is-adran (5) ar ôl i gyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod y gosodwyd copi o'r cod gerbron y Cynulliad ddod i ben.
7
At ddibenion is-adran (6), ni chymerir i ystyriaeth unrhyw amser pryd y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.
8
Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu unrhyw god ymarfer drwy gyfarwyddyd.
9
Rhaid i unrhyw gyfarwyddyd o dan is-adran (8) gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
I5I1145Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–
a
datgymhwyso Rhan 1 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a
b
yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).
2
Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).
3
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth–
a
sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;
b
sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.
I6I1246Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer y canlynol ac mewn cysylltiad â hwy–
a
datgymhwyso Rhan 3 (cyhyd ag y bo'r rheoliadau mewn grym) mewn perthynas â dwy neu ragor o ardaloedd awdurdodau lleol; a
b
yn lle cymhwyso'r Rhan honno ac, i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol y Rhan hon a Rhan 6, mewn perthynas ag ardaloedd cyfun yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) (cyfeirir at yr ardal gyfun honno yn yr adran hon fel “rhanbarth”).
2
Rhaid i'r ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth yn pennu o leiaf un Bwrdd Iechyd Lleol ac un awdurdod lleol yn bartneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth (ac nid oes ots os nad yw unrhyw ran o'r ardal y cyfansoddwyd y cyfryw Fwrdd neu awdurdod ar ei chyfer yn dod o fewn y rhanbarth).
3
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) darpariaeth –
a
sy'n pennu mwy nag un Bwrdd neu awdurdod o'r fath ymhlith y partneriaid iechyd meddwl ar gyfer y rhanbarth;
b
sy'n gwneud yr addasiadau hynny i Ran 1 yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.
I7I16I2047Rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ynghylch cymhwystra unigolion–
a
i arfer swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol er mwyn cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan adran 9;
b
i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal o dan adran 14.
2
Caiff y rheoliadau ddarparu ynghylch y materion canlynol o ran person–
a
cymwysterau;
b
sgiliau;
c
hyfforddiant; neu
d
profiad.
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chymhwystra unigolion i gynnal y cyfnod dadansoddi o ran asesiad iechyd meddwl sylfaenol o'i chymharu â'r ddarpariaeth a wneir o ran cymhwystra unigolion i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal.
I8I2148Dyletswydd i adolygu'r Mesur
1
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Mesur hwn at ddibenion cyhoeddi adroddiad neu adroddiadau yn unol ag is-adrannau (3) i (6).
2
Cyn ymgymryd ag adolygiad o weithrediad unrhyw ran neu ddarpariaeth o'r Mesur, rhaid i Weinidogion Cymru eu bodloni eu hunain bod amser digonol wedi mynd heibio i'r rhan honno neu'r ddarpariaeth honno fod ar waith; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6).
3
Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 1 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 2(1), 3(1), 4(1), 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) a 10(1) i (3).
4
Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 2 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 13(1), 16(1) ac 17(1) a (10).
5
Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 3 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn y darpariaethau canlynol: adrannau 18(1) a (3), 19, 23(1) a (2), 25, 26(2) a 27(1) a (2).
6
Rhaid cyhoeddi adroddiad ar adolygiad o weithrediad Rhan 4 o fewn pedair blynedd ar ôl cychwyn yr holl ddyletswyddau a geir yn adran 130E(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, fel y'i mewnosodwyd gan adran 31 o'r Mesur hwn.
7
Caniateir cyhoeddi unrhyw ddau adroddiad neu ragor yn yr un ddogfen.
8
At ddibenion yr adran hon, ystyr “cychwyn” yw cychwyn ar gyfer unrhyw achos, dosbarth o achos, ardal neu ddiben.
9
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw adroddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan is-adrannau (3) i (6) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.