(1)At ddibenion gwella effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir i glaf perthnasol, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl gymryd pob cam rhesymol i sicrhau–
(a)bod gwahanol wasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu i glaf yn cael eu cydgysylltu â'i gilydd; a
(b)bod y gwasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu i'r claf yn cael eu cydgysylltu ag unrhyw wasanaethau eraill y mae unrhyw ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl arall yn gyfrifol am eu darparu;
(c)bod y gwasanaethau iechyd meddwl y mae'n gyfrifol am eu darparu yn cael eu cydgysylltu ag unrhyw wasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac sy'n cael eu darparu ar gyfer y claf gan gorff gwirfoddol.
(2)Caiff darparydd gwasanaeth iechyd meddwl geisio cyngor cydgysylltydd gofal claf o ran sut y dylai'r darparydd gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).
(3)Caiff cydgysylltydd gofal ar unrhyw adeg roi cyngor i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl o ran sut y dylai'r darparydd gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).
(4)Rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl roi sylw i unrhyw gyngor a roddir o dan is-adran (2) neu (3) wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1).
(5)Yn yr adran hon gwasanaethau iechyd meddwl yw–
(a)gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd;
(b)gwasanaethau o dan Ran 1 o'r Mesur hwn;
(c)pethau a wneir wrth arfer pwerau awdurdod lleol yn adran 8 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 mewn cysylltiad â pherson sy'n destun gwarcheidiaeth yr awdurdod.
(6)Yn yr adran hon ystyr “corff gwirfoddol” yw corff y mae ei weithgareddau'n cael eu cyflawni mewn modd ac eithrio ar gyfer gwneud elw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 55(3)
I2A. 17 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(f)
I3A. 17 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(g)