RHAN 3ASESIADAU AR DDEFNYDDWYR BLAENOROL O WASANAETHAU IECHYD MEDDWL EILAIDD

Hawliau asesu

I1I224Darparu gwybodaeth am asesiadau

1

Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r Bwrdd roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad yw unrhyw awdurdod lleol, ar ddyddiad rhyddhau'r oedolyn, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd iddo.

2

Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau oedolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i'r awdurdod roi gwybodaeth ysgrifenedig i'r oedolyn ynghylch hawl i asesiad o dan y Rhan hon os nad oes unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, ar ddyddiad yr asesiad, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd ar gyfer yr oedolyn.

3

Pan fo'r cyfnod rhyddhau perthnasol yn cychwyn pan fo unigolyn yn blentyn ac yn dod i ben pan fo'r unigolyn hwnnw'n dod yn oedolyn, mae'r Bwrdd neu'r awdurdod o dan yr un ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r unigolyn hwnnw ynghylch ei hawl i asesiad ag y mae i roi'r cyfryw wybodaeth i oedolyn o dan is-adrannau (1) a (2).

4

At ddibenion yr adran hon, mae Bwrdd neu awdurdod yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd pan fydd yn gweithredu penderfyniad nad oes angen i'r Bwrdd neu'r awdurdod ddarparu mwyach unrhyw wasanaeth o'r fath ar gyfer yr unigolyn.