Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

26Asesiadau: darpariaeth bellachLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid cynnal asesiad o dan y Rhan hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cais y cyfeirir ato yn adran 22(1) gael ei wneud.

(2)Rhaid i bartneriaid iechyd meddwl lleol sicrhau–

(a)bod asesiad yn arwain at un adroddiad ysgrifenedig sy'n cofnodi a yw'r asesiad wedi dynodi unrhyw wasanaethau'n unol ag adran 25; a

(b)bod copi o'r adroddiad hwnnw yn cael ei roi i'r oedolyn a gafodd ei asesu o fewn y cyfryw gyfnod yn dilyn cwblhau'r asesiad ag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Os un partner iechyd meddwl lleol sydd wedi cynnal asesiad o dan y Rhan hon, rhaid i'r partner, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny, roi copi o'r adroddiad i'r partner arall cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol iddo wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I2A. 26 mewn grym ar 6.6.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(o)