RHAN 5CYFFREDINOL
I1I2I342Rhannu gwybodaeth
1
Caiff partner iechyd meddwl lleol (partner 1) roi i bartner arall (partner 2)–
a
gwybodaeth a gafodd partner 1 wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Ran 1 neu 3 o'r Mesur hwn; a
b
gwybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y darperir neu y gellid bod yn darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol iddo gan bartner 2 neu oedolyn y mae partner 2 yn arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Mesur hwn mewn perthynas ag ef.
2
Caiff awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru roi i'w gilydd wybodaeth–
a
y mae unrhyw un neu ragor ohonynt wedi ei chael wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 2 o'r Mesur hwn; a
b
sy'n ymwneud â chlaf perthnasol at ddibenion y Rhan honno.
3
Nid oes dim yn is-adran (1) neu (2) sy'n awdurdodi datgelu unrhyw wybodaeth yn groes i unrhyw ddarpariaeth, neu a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth, yn y Mesur hwn neu yn unrhyw Fesur arall neu yn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud) sy'n atal datgelu'r wybodaeth.
4
Nid yw'r adran hon yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth.