Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

47Rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofalLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ynghylch cymhwystra unigolion–

(a)i arfer swyddogaethau partner iechyd meddwl lleol er mwyn cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol o dan adran 9;

(b)i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal o dan adran 14.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu ynghylch y materion canlynol o ran person–

(a)cymwysterau;

(b)sgiliau;

(c)hyfforddiant; neu

(d)profiad.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chymhwystra unigolion i gynnal y cyfnod dadansoddi o ran asesiad iechyd meddwl sylfaenol o'i chymharu â'r ddarpariaeth a wneir o ran cymhwystra unigolion i gael eu penodi'n gydgysylltwyr gofal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 mewn grym ar 15.2.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 55(1)(2)(b)

I2A. 47 mewn grym ar 6.6.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1397, ergl. 2(x)

I3A. 47 mewn grym ar 1.10.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/2411, ergl. 2(l)