Cyffredinol

I117Dehongli

1

Yn y Mesur hwn–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth–

    1. a

      sy'n wastraff at ddibenion y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, a

    2. b

      nas eithriwyd o gwmpas y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno;

  • ystyr “pennu” (“specified”) yw pennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, ac ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o'r fath;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd.

2

At ddibenion y diffiniad o “gwastraff” yn is-adran (1), ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 sy'n ymwneud â gwastraff ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau penodol F1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan F4Gyfarwyddeb (EU) 2018/851F7a chan ei ddarllen yn unol ag is-adrannau (3) i (8).

F63

Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

4

Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

a

ym mharagraff 2—

i

yn y geiriau o flaen pwynt (a), “ F9assimilated law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

ii

ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

iii

ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler adran 17A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

b

ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

c

paragraff 4 wedi ei hepgor.

5

Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

a

ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A

Any decision as to whether a substance or object is a by-product, must be made—

a

in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

b

having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.

c

paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

6

Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

a

ym mharagraff 1 “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A

Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

a

in accordance with any regulations or F10assimilated direct legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

b

having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.

c

ym mharagraff 2—

i

yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

ii

yn yr ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

iii

y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

d

paragraff 3 wedi ei hepgor;

e

ym mharagraff 4—

i

yn yr is-baragraff cyntaf—

aa

yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a) the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

bb

yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

ii

yn yr ail is-baragraff—

aa

“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

bb

“by competent authorities” wedi ei hepgor.

7

Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

a

y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1

In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.

b

ym mharagraff 1—

i

y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

ii

“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

c

paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.

8

Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

17AF5Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”

1

Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag adran 17(4), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directive(fel y’i mewnosodwyd gan baragraff (a)(iii) o adran 17(4)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, gan ei darllen yn unol ag is-adrannau (2) i (5).

2

Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

a

ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol ag is-adran (4);

b

paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

3

Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

4

At ddibenion is-adran (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

a

y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

b

y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—

  • and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 has the same meaning as in those Regulations.

5

Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol ag is-adran (3), mae i’r cyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodwyd gan is-adran (3)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.

I218Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae'r Atodlen yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 18 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

I319Gorchmynion a rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

2

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer–

a

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol ar achos, ardaloedd gwahanol, personau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o berson neu ddibenion gwahanol;

b

i beri i ddarpariaeth wahanol fod yn gymwys ar adegau gwahanol;

c

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

d

i wneud darpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

F23

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F24

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I420Gorchmynion a rheoliadau: gweithdrefnau

1

Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys–

a

i orchymyn o dan adran 21(1);

b

i orchmynion a rheoliadau y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt.

3

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 3(4) neu reoliadau o dan adran 4, 5(1)(g), 6, 9, F89A neu 14 (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â darpariaethau eraill) oni fydd drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

F34

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F35

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I521Cychwyn

1

Mae adran 3 yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

2

Mae gweddill y darpariaethau sydd yn y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

Annotations:
Commencement Information
I5

A. 21 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)

I622Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010.