Targedau gwastraffLL+C

3Targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostioLL+C

(1)Pennir y targedau ar gyfer ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn is-adrannau (2) a (3).

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau yr adenillir, drwy gyfrwng unrhyw un o'r gweithrediadau a bennir yn is-adran (5), o leiaf y maint targed o'i wastraff bwrdeistrefol–

(a)bob blwyddyn ariannol darged, a

(b)bob blwyddyn ariannol ddilynol tan y flwyddyn ariannol darged nesaf.

(3)Yn y tabl canlynol–

(a)mae colofn 1 yn pennu'r maint targed ar gyfer blwyddyn ariannol darged (a'r blynyddoedd ariannol sy'n dod o fewn is-adran (2)(b)), a

(b)mae colofn 2 yn pennu'r flwyddyn ariannol darged y mae'r maint targed yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 1 yn gymwys iddi.

TABL

Maint targedBlwyddyn ariannol darged
52%2012/13
58%2015/16
64%2019/20
70%2024/25

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl hwn drwy orchymyn.

(5)Y gweithrediadau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2) yw–

(a)ailgylchu;

(b)paratoi i ailddefnyddio;

(c)compostio (gan gynnwys unrhyw ffurf arall ar drawsnewid drwy brosesau biolegol).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ganfod a yw gwastraff yn cael ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio, neu ei gompostio at ddibenion y targedau o dan yr adran hon.

(7)Mae awdurdod lleol nad yw'n cyrraedd targed ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio yn agored i gosb sydd i'w thalu i Weinidogion Cymru.

(8)At ddibenion yr adran hon, gwastraff trefol awdurdod lleol o flwyddyn ariannol darged yw maint cyfan pob un o'r canlynol yn ôl pwysau–

(a)yr holl wastraff a gasglwyd yn y flwyddyn honno gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990;

(b)yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno mewn mannau a ddarparwyd gan awdurdod lleol o dan is-adrannau (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno;

(c)unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth.

4Rheoliadau i osod targedau gwastraffLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau–

(a)pennu targedau gwastraff sydd i'w cyrraedd gan awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau;

(b)pennu dangosyddion y gellir cyfeirio atynt i fesur i ba raddau y mae awdurdod lleol yn bodloni'r targedau o dan baragraff (a);

(c)gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb i Weinidogion Cymru os na chyrhaeddir targed o dan baragraff (a).

(2)At ddibenion is-adran (1)(a), mae “targedau gwastraff” yn dargedau sy'n ymwneud ag atal, lleihau, casglu, rheoli, trin neu waredu gwastraff.

5Monitro ac archwilio cydymffurfedd â thargedauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau–

(a)ynghylch sut y mae cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol i'w asesu;

(b)ynghylch trefniadau ar gyfer monitro ac archwilio cydymffurfedd ag unrhyw darged perthnasol;

(c)sy'n rhoi pwerau mynediad a phwerau arolygu mewn cysylltiad â'r monitro a'r archwilio hwnnw ar gyfer personau a awdurdodir gan Weinidogion Cymru;

(d)sy'n ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw gan awdurdod lleol mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

(e)sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu gan awdurdod lleol i bersonau penodedig ar ffurf benodedig neu mewn dull penodedig mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

(f)sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei chyhoeddi mewn cysylltiad â thargedau perthnasol;

(g)sy'n gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i dalu cosb os yw'n methu â chydymffurfio â gofyniad mewn rheoliadau o dan unrhyw un neu unrhyw rai o baragraffau (b) i (f).

(2)Yn yr adran hon, “targedau perthnasol” yw–

(a)targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio o dan adran 3;

(b)unrhyw dargedau gwastraff o dan adran 4(1)(a).

6Rheoliadau am gosbauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gosbau o dan adran 3(7), adran 4(1)(c) ac adran 5(1)(g).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau–

(a)pennu symiau cosbau neu reolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae taliadau o ran cosbau yn ddyledus;

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer llog pan fo taliadau o ran cosbau yn ddyledus ond heb eu gwneud;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer adennill neu wrth-hawlio, a sicrhau, symiau, o ran cosbau a llog, sydd heb eu talu;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch hepgor cosbau.

7CanllawiauLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 3 i 6, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau o roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.

8YmgynghoriLL+C

(1)Cyn gwneud gorchymyn neu reoliadau o dan adran 3 neu reoliadau o dan adrannau 4, 5 neu 6, neu rhoi canllawiau o dan adran 7, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol–

(a)[F1Corff Adnoddau Naturiol Cymru];

(b)pob awdurdod lleol;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

(2)At ddibenion is-adran (1), mae ymgynghoriad sydd wedi ei wneud cyn pasio'r Mesur hwn yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar ôl ei basio.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 8 mewn grym ar 15.2.2011, gweler a. 21(2)