RHAN 2LL+CCOMISIYNYDD Y GYMRAEG

Datgelu gwybodaethLL+C

22Y pŵer i ddatgelu gwybodaethLL+C

(1)Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth y mae'r Comisiynydd wedi ei chael wrth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd onid awdurdodir y datgeliad gan is-adran (2).

(2)Caiff y Comisiynydd ddatgelu'r wybodaeth—

(a)at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd;

(b)at ddibenion achos am dramgwydd o dyngu anudon yr honnir i'r tramgwydd gael ei gyflawni yn ystod ymchwiliad i orfodi safonau;

(c)at ddibenion ymholiad gyda golwg ar gychwyn achos fel a grybwyllir ym mharagraff (b);

(d)at ddibenion dyroddi tystysgrif o dan adran 107 (rhwystro a dirmygu);

(e)os yw'r wybodaeth i'r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau a bod y datgeliad yn ddatgeliad i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd;

(f)os gwybodaeth o'r math a grybwyllir yn is-adran (3) yw'r wybodaeth, ac os gwneir y datgeliad i'r Comisiynydd Gwybodaeth;

(g)os gwneir y datgeliad i berson a ganiatawyd, a bod y Comisiynydd yn fodlon bod amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni;

(h)os cafwyd yr wybodaeth gan y Comisiynydd dros 70 o flynyddoedd cyn dyddiad y datgelu, ac os datgeliad ydyw i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r wybodaeth iddo er budd y cyhoedd.

(3)Gwybodaeth yw'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f) yr ymddengys i'r Comisiynydd ei bod yn ymwneud—

(a)â mater y gallai'r Comisiynydd Gwybodaeth arfer pŵer mewn perthynas ag ef ac a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4); neu

(b)â chyflawni tramgwydd a grybwyllir yn is-adran (5).

(4)Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(a) yw—

[F1(a)adrannau 142 i 154, 160 i 164, neu 174 i 176 o Ddeddf Diogelu Data 2018 neu Atodlen 15 i'r Ddeddf honno (darpariaethau penodol yn ymwneud â gorfodi);]

(b)adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (argymhellion arfer); ac

(c)Rhan 4 o'r Ddeddf honno (gorfodi).

[F2(5)Y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (3)(b) yw'r rhai—

(a)o dan ddarpariaeth yn Neddf Diogelu Data 2018 ac eithrio paragraff 15 o Atodlen 15 (rhwystro gweithredu gwarant etc); neu

(b)o dan adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (trosedd o altro etc cofnodion gyda'r bwriad o atal datgelu).]

(6)At ddibenion is-adran (2)(g), mae amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni os yw'r datgeliad—

(a)yn briodol at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r person a ganiatawyd gan y person hwnnw, a

(b)er budd y cyhoedd.

(7)Wrth ddyfarnu at ddibenion yr adran hon a yw datgelu gwybodaeth er budd y cyhoedd, rhaid i'r Comisiynydd ystyried buddiannau—

(a)unrhyw berson y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef; a

(b)unrhyw bersonau eraill sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(8)Nid yw'r adran hon yn effeithio ar [F3gymhwyso'r ddeddfwriaeth diogelu data] i'r Comisiynydd.

(9)Yn yr adran hon—

  • [F4“mae i “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “the data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o'r Ddeddf honno);]

  • ystyr “person a ganiatawyd” (“permitted person”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    Prif Weinidog Cymru;

    (c)

    Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru;

    (d)

    Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

    (e)

    Comisiynydd Plant Cymru;

    (f)

    y Comisiynydd Plant;

    (g)

    y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;

    (h)

    Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon;

    (i)

    Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

    (j)

    ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun o dan adran 51 o Ddeddf Tai 1996;

    (k)

    cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

    (l)

    cyngor ar gyfer sir neu ddosbarth yn Lloegr;

    (m)

    cyngor ar gyfer un o fwrdeistrefi Llundain;

    (n)

    prif gwnstabl o'r heddlu ar gyfer ardal heddlu;

    (o)

    prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain;

  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 71.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd” yn is-adran (9)—

(a)drwy ychwanegu person;

(b)drwy hepgor person;

(c)drwy newid disgrifiad o berson.

(11)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 22(1)(2)(a)(e)-(h)(3)-(8)(10)(11) mewn grym ar 17.4.2012 gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(a)

I3A. 22(2)(b)-(d) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(a)

I4A. 22(9) mewn grym ar 17.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/1096, ergl. 2(a)

I5A. 22(9) mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(a)