RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Swyddogaethau
I17I214Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
1
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef—
a
er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg,
b
er mwyn hwyluso defnyddio'r Gymraeg, neu
c
er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
2
Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r pethau canlynol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—
a
hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;
b
annog arferion gorau o ran defnyddio'r Gymraeg gan bersonau sy'n delio â phersonau eraill, neu sy'n darparu gwasanaethau i bersonau eraill;
c
cadw digonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith sy'n ymwneud â'r Gymraeg o dan arolygiaeth;
d
llunio a chyhoeddi adroddiadau;
e
gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i'w wneud;
f
gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i'w gwneud;
g
rhoi cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) i unrhyw berson;
h
gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru;
i
cyflwyno sylwadau i unrhyw berson;
j
rhoi cyngor i unrhyw berson.
3
Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.
4
Mae pŵer y Comisiynydd o dan is-adran (2)(g) i roi cymorth ariannol yn ddarostyngedig i adran 11(4).
5
Caniateir arfer pwerau'r Comisiynydd o dan is-adran (2)(h) i (j) i wneud argymhellion neu gyflwyno sylwadau neu i roi cyngor i berson (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) p'un a wnaeth y person hwnnw gais i'r Comisiynydd arfer y pwerau ai peidio.
6
Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth a roddir gan yr adran hon.
I32I15Cynhyrchu adroddiadau 5-mlynedd
1
Rhaid i'r Comisiynydd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, lunio adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.
2
Yn y Mesur hwn, cyfeirir at adroddiad o'r fath fel “adroddiad 5-mlynedd”.
3
Os yr adroddiad cyntaf o'i fath i gael ei lunio ar ôl cyfrifiad yw adroddiad 5-mlynedd, rhaid iddo gynnwys y materion a ganlyn—
a
adroddiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Gymraeg;
b
asesiad o oblygiadau'r canlyniadau hynny i sefyllfa'r Gymraeg.
4
Nid yw is-adran (3) yn cyfyngu ar y materion y caiff y Comisiynydd eu cynnwys mewn unrhyw adroddiad 5-mlynedd.
5
Yn yr adran hon—
ystyr “cyfnod adrodd” (“reporting period”) yw—
- a
y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 2 i rym ac sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2015; a
- b
pob cyfnod olynol o 5 mlynedd;
- a
ystyr “cyfrifiad” (“census”) yw cyfrifiad a wnaed o dan Ddeddf Cyfrifiad 1920 yng Nghymru (p'un a wnaed y cyfrifiad hefyd mewn man heblaw Cymru ai peidio).
I5I126Adroddiadau 5-mlynedd: atodol
1
Wrth baratoi pob adroddiad 5-mlynedd—
a
rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori, a
b
caiff y Comisiynydd ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn ei dyb ef.
2
Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
3
Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef ddod i ben.
4
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi pob adroddiad 5-mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
archwilio pob adroddiad 5-mlynedd a gyflwynir iddynt, a
b
gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
I77Ymholiadau
I91
Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.
I25I222
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).
3
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—
I9a
lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu
I3b
lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).
I34
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.
I95
Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).
I25I226
Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—
a
i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu
b
i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
I97
Caiff y Comisiynydd—
a
terfynu, neu
b
atal,
ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.
I38
Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
a
wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
b
caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
c
caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.
I99
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.
I310
Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.
I29I198Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraill
1
Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
2
O ran is-adran (1)—
a
nid yw'n creu sail i achos, a
b
mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.
3
Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd “achos cyfreithiol” yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.
I2I249Cymorth cyfreithiol
1
Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
2
Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—
a
yn rhinwedd deddfiad, neu
b
yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.
3
Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
4
Yn yr adran hon—
mae “achos cyfreithiol” (“legal proceedings”) yn cynnwys achos gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;
mae “cymorth” (“assistance”) yn cynnwys y pethau a ganlyn, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
- a
cyngor cyfreithiol;
- b
cynrychiolaeth gyfreithiol;
- c
cyfleusterau i setlo anghydfod.
- a
I16I1410Cymorth cyfreithiol: costau
1
Mae'r adran hon yn gymwys—
a
os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a
b
os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).
2
O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—
a
cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a
b
gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
3
Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).
4
At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.
5
Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—
a
yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu
b
at ddibenion cyffredinol.
I31I811Pwerau
1
Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o'i swyddogaethau.
2
Mae hynny'n cynnwys gwneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
a
rhoi grantiau a benthyciadau a rhoi gwarantau;
b
codi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
c
talu trydydd partïon am roi cyngor neu am wasanaethau eraill;
d
derbyn rhoddion ar ffurf arian neu eiddo arall;
e
caffael neu waredu unrhyw eiddo neu hawl.
3
Mae is-adran (2) yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).
4
Rhaid i'r Comisiynydd beidio—
a
â rhoi grant neu fenthyciad,
b
â rhoi gwarant, neu
c
â chaffael neu waredu unrhyw fuddiant mewn tir,
ac eithrio gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan adran 9.
6
Mae pŵer y Comisiynydd i godi ffi am roi cyngor neu am wasanaethau yn gyfyngedig i godi'r symiau sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd i adennill y gost wirioneddol neu amcangyfrif o'r gost a dynnir gan y Comisiynydd wrth roi'r cyngor hwnnw neu wrth ddarparu'r gwasanaethau hynny.
I28I1312Staff
1
O ran y Comisiynydd—
a
rhaid iddo benodi person yn Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “y Dirprwy Gomisiynydd”), a
b
caiff benodi staff arall sy'n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.
2
Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at staff y Comisiynydd yn gyfeiriadau at y Dirprwy Gomisiynydd a staff arall.
3
Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau o staff y Comisiynydd.
4
Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau o staff y Comisiynydd.
5
Caiff y Comisiynydd dalu—
a
pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy, a
b
symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o staff y Comisiynydd, neu mewn cysylltiad â hwy.
6
Rhaid i'r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer—
a
nifer y staff y caniateir eu penodi,
b
telerau ac amodau gwasanaeth y staff, ac
c
taliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o is-adrannau (3) i (5).
7
Rhaid i Brif Weinidog Cymru benodi'r Dirprwy Gomisiynydd—
a
os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
b
os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru y bydd y Comisiynydd yn methu â phenodi'r Dirprwy Gomisiynydd yn unol â'r adran hon.
8
Am ddarpariaeth ynglŷn ag uniondeb cymeriad y Dirprwy Gomisiynydd gweler Pennod 1 o Ran 8.
I18I2013Arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan staff
1
Caiff y Comisiynydd ddirprwyo unrhyw un neu ragor neu'r oll o swyddogaethau'r Comisiynydd i aelod o staff y Comisiynydd.
2
Mae swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan y Dirprwy Gomisiynydd—
a
os yw swydd y Comisiynydd yn wag, neu
b
os yw'n ymddangos i Brif Weinidog Cymru nad yw'r Comisiynydd am unrhyw reswm yn gallu arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.
3
Os oes un o swyddogaethau'r Comisiynydd yn arferadwy gan aelod o staff y Comisiynydd yn unol ag is-adran (1) neu (2) caiff yr aelod staff, wrth arfer y swyddogaeth, ddelio ag unrhyw eiddo neu hawliau sydd wedi eu breinio yn y Comisiynydd fel pe byddent wedi eu breinio yn yr aelod staff.
I4I2314Y weithdrefn gwyno
1
Rhaid i'r Comisiynydd sefydlu gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i gwynion ynglŷn â gweithredoedd neu anweithiau'n ymwneud ag arfer swyddogaethau'r Comisiynydd (“y weithdrefn gwyno”).
2
Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
ym mha fodd y gellir gwneud cwyn;
b
y person y gellir cwyno wrtho;
c
y cyfnod a ganiateir ar gyfer dechrau a gorffen ystyried cwyn; a
d
y camau y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ystyried eu cymryd wrth ymateb i gŵyn.
3
Caiff y Comisiynydd ddiwygio'r weithdrefn gwyno.
4
Rhaid i'r Comisiynydd—
a
sicrhau bod copi o'r weithdrefn gwyno ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a
b
sicrhau y perir bod copïau o'r weithdrefn gwyno ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.
5
Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o'r weithdrefn gwyno yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y weithdrefn.
I30I2715Y sêl a dilysrwydd dogfennau
1
Caniateir i'r Comisiynydd gael sêl.
2
Mae dogfen—
a
yr honnir ei bod wedi ei chyflawni'n briodol o dan sêl y Comisiynydd, neu
b
yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y Comisiynydd,
i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi ei chyflawni neu wedi ei llofnodi felly.
I1516Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd
I111
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.
2
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol—
I6a
rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);
I6b
Rhan 5 (gorfodi safonau);
I11c
Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).
I113
Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
I10I2617Ymgynghori
Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth, yn ymgynghori —
a
â'r Panel Cynghori, neu
b
ag unrhyw berson arall yn unol â'r Mesur hwn,
rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r ymgynghoriad wrth arfer y swyddogaeth.