xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CSAFONAU

PENNOD 2LL+CSAFONAU A PHENNU SAFONAU

Pennu safonauLL+C

26Gweinidogion Cymru i bennu safonauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,

(b)pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,

(c)pennu un neu ragor o safonau gweithredu,

(d)pennu un neu ragor o safonau hybu, ac

(e)pennu un neu ragor o safonau cadw cofnodion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth arall ynghylch y safonau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)

27Pennu safonau: darpariaeth atodolLL+C

(1)Dim ond os ymddengys i Weinidogion Cymru y byddai'r safon yn gwneud y canlynol y caiff Gweinidogion Cymru bennu safon cadw cofnodion sy'n ymwneud â chadw cofnodion sy'n dod o fewn adran 32(1)(b)(ii) (cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg, ac eithrio cwynion yn ymwneud â chydymffurfedd person â safonau eraill)—

(a)cynorthwyo Gweinidogion Cymru i arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Mesur hwn, neu

(b)cynorthwyo'r Comisiynydd i arfer unrhyw swyddogaeth.

(2)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu gwahanol safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw mewn perthynas ag ymddygiad gwahanol.

(3)Caiff rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (e) o adran 26(1) bennu, mewn perthynas ag ymddygiad penodol—

(a)un safon o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, neu

(b)nifer o safonau o'r math y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.

(4)Caiff safonau a bennir o dan adran 26(1), neu reoliadau o dan adran 26(2), ymdrin, ymhlith pethau eraill, ag unrhyw un neu ragor o'r canlynol—

(a)llunio gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, strategaethau neu gynlluniau'n nodi sut y maent yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau;

(b)gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau;

(c)casglu gwybodaeth gan bersonau sydd o dan y ddyletswydd yn adran 25 i gydymffurfio â safonau, gan gynnwys gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn perthynas ag ymddygiad penodol;

(d)gwybodaeth y mae'n rhaid trefnu iddi fod ar gael i'r Comisiynydd;

(e)trefniadau monitro a gofynion cyhoeddusrwydd;

(f)gofynion adrodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 27 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 27 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)