Eithrio darlleduLL+C
67Eithrio darlleduLL+C
(1)Nid yw'r Mesur hwn—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol, na
(b)yn awdurdodi person i'w gwneud yn ofynnol,
i berson gydymffurfio â safon os yw'r safon honno, ac i'r graddau y mae'r safon honno, yn ymwneud â darlledu.
(2)Yn yr adran hon—
(a)ystyr “darlledu” yw comisiynu, cynhyrchu, amserlennu, trawsyrru neu ddosbarthu rhaglenni (gan gynnwys hysbysebion, is-deitlau, cyhoeddiadau cyswllt a theletestun), gwasanaethau mynediad, rhyngweithgarwch, cynnwys ar-lein ac allbwn arall tebyg ei natur ar gyfer y teledu, y radio, y rhyngrwyd neu lwyfannau ar-lein neu ddi-wifr eraill;
(b)ond nid yw cyfeiriadau at ddarlledu yn cynnwys unrhyw weithgaredd a gyflawnir mewn cysylltiad â darlledu (onid darlledu yw'r gweithgaredd ei hun).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 67 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 67 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(i)(iii)