RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 4APELAU
I7I895Apelau i'r Tribiwnlys
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd—
a
yn cynnal ymchwiliad o dan adran 71, a
b
yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â gofyniad perthnasol.
2
Caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail na fethodd D â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
3
Ond ni chaiff D apelio i'r Tribiwnlys o dan is-adran (2) os yw'r Comisiynydd wedi ei gyfarwyddo, yn dilyn apêl o dan adran 99 neu 101, neu unrhyw apêl bellach, i ddyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.
4
Os yw'r Comisiynydd yn cymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â methiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, caiff D apelio i'r Tribiwnlys ar y sail bod y camau gorfodi yn afresymol neu'n anghymesur.
5
Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
6
Ond caiff y Tribiwnlys, pan wneir cais ysgrifenedig gan D, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau os yw'r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—
a
dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
b
os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
7
Caniateir i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud cyn diwedd neu ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau.
8
Caiff D apelio o dan is-adran (4) p'un a yw D yn apelio hefyd o dan is-adran (2) ai peidio.
9
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys (sy'n cael gwneud, ymysg pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y modd y ceir dwyn apelau o dan yr adran hon).
10
Yn y Bennod hon ystyr “cyfnod perthnasol o 28 o ddiwrnodau” yw'r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r Comisiynydd yn rhoi'r hysbysiad penderfynu i D mewn perthynas â'r ymchwiliad.
I3I596Pwerau'r Tribiwnlys pan wneir apêl
1
Pan wneir apêl o dan adran 95(2), caiff y Tribiwnlys—
a
cadarnhau dyfarniad y Comisiynydd, neu
b
diddymu dyfarniad y Comisiynydd.
2
Pan wneir apêl o dan adran 95(4), caiff y Tribiwnlys—
a
cadarnhau'r camau gorfodi,
b
amrywio'r camau gorfodi (gan gynnwys drwy gymryd camau gorfodi o fath gwahanol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny), neu
c
diddymu'r camau gorfodi.
3
Rhaid i'r Tribiwnlys hysbysu D a'r Comisiynydd o'i benderfyniad ar apêl o dan adran 95.
4
Mae i unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys pan wneir apêl o dan adran 95 yr un effaith â dyfarniad y Comisiynydd, a gellir ei orfodi yn yr un modd.
I6I197Apelau o'r Tribiwnlys
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 95.
2
Caiff y Comisiynydd neu D, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.
3
Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—
a
caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a
b
os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—
i
anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu
ii
ail-wneud y penderfyniad.
4
Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y canlynol, ond heb fod wedi eu cyfyngu iddynt—
a
cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,
b
cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.
5
Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—
a
gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a
b
gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.
6
Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 95.
7
Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu D, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—
a
dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a
b
os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud y cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.
8
Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.
I2I498Dyletswydd y Comisiynydd ar apêl
1
Mae'r adran hon yn gymwys—
a
os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93, a
b
os gwneir apêl o dan adran 95 neu 97, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac
c
os nad yw P yn barti yn yr achos hwnnw.
2
Rhaid i'r Comisiynydd—
a
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad, apêl o dan adran 95 roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad,
b
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 97, neu unrhyw apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac
c
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 97 neu o ganlyniad apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad.