Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Staff ac adnoddau eraillLL+C

127Staff, adeiladau ac adnoddau eraill y TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod gan y Tribiwnlys y canlynol—

(a)staff,

(b)adeiladau, ac

(c)adnoddau ariannol ac adnoddau eraill,

sy'n briodol i'r Tribiwnlys er mwyn iddo arfer ei swyddogaethau.

(2)Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu pa staff, adeiladau, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill sy'n briodol at y diben hwnnw.

(3)Caniateir i Weinidogion Cymru fodloni'r ddyletswydd o dan is-adran (1)—

(a)drwy ddarparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill, neu

(b)drwy wneud trefniadau gydag unrhyw berson arall ar gyfer darparu staff, adeiladau neu adnoddau eraill.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i staff y Tribiwnlys.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i staff y Tribiwnlys.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

(a)pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn perthynas â hwy, a

(b)symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau sydd wedi bod yn aelodau o staff y Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 127 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 127 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(g)

128Cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennigLL+C

(1)Caiff y Llywydd benodi cynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig i ddarparu cymorth i'r Tribiwnlys (boed mewn perthynas ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys neu fel arall).

(2)Caiff y Llywydd dalu tâl cydnabyddiaeth i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(3)Caiff y Llywydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i gynghorwyr sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig.

(4)Ond rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo swm unrhyw dâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i gynghorydd sydd wedi ymgymhwyso'n arbennig cyn i'r Llywydd dalu'r tâl cydnabyddiaeth, lwfansau neu'r arian rhodd, neu gytuno i'w talu.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 128 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 128 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(h)