RHAN 7LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Y TribiwnlysLL+C

120Tribiwnlys y GymraegLL+C

(1)Bydd yna Dribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Tribiwnlys”).

(2)Yr aelodau canlynol fydd aelodau'r Tribiwnlys—

(a)Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Llywydd”);

(b)aelodau wedi ymgymhwyso yn y gyfraith; ac

(c)aelodau lleyg.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau'r Tribiwnlys.

(4)Mae Atodlen 11 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 120(1) mewn grym ar 30.4.2015 gan O.S. 2015/1217, ergl. 2

I3A. 120(2)(3) mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(a)(b)

I4A. 120(4) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(l)

I5A. 120(4) mewn grym ar 7.1.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(c)

121Cyfansoddiad ar gyfer achosion gerbron y TribiwnlysLL+C

(1)Rhaid i'r Llywydd ddewis yr aelodau o'r Tribiwnlys sydd i ymdrin ag achosion penodol gerbron y Tribiwnlys.

(2)Rhaid i'r Llywydd ddewis tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin â'r achosion.

(3)Rhaid i'r Llywydd sicrhau bod—

(a)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod cyfreithiol, a

(b)o leiaf un o'r tri aelod yn aelod lleyg.

(4)Os dim ond un o'r tri aelod sy'n aelod cyfreithiol, yr aelod cyfreithiol hwnnw sydd i gadeirio'r achos.

(5)Os oes mwy nag un o'r tri aelod yn aelodau cyfreithiol, mae'r Llywydd i ddewis yr aelod cyfreithiol sydd i gadeirio'r achos.

(6)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.

(7)Yn yr adran hon ystyr “aelod cyfreithiol” yw—

(a)y Llywydd, neu

(b)aelod o'r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith.

122Gwrandawiadau cyhoeddusLL+C

(1)Mae achosion gerbron y Tribiwnlys i'w cynnal yn gyhoeddus.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.