RHAN 7TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
Ymarferiad a threfniadaeth etc
I2I5123Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg
1
Rhaid i'r Llywydd wneud rheolau sy'n llywodraethu'r ymarferiad a'r drefniadaeth sydd i'w dilyn yn y Tribiwnlys.
2
Mae'r rheolau i'w galw'n “Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg” (ond cyfeirir atynt yn y Mesur hwn fel “Rheolau'r Tribiwnlys”).
3
Rhaid i Reolau'r Tribiwnlys gynnwys y canlynol—
a
darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(2) y tri aelod o'r Tribiwnlys i ymdrin ag achosion;
b
darpariaeth ynghylch dewis o dan adran 121(5) yr aelod cyfreithiol i gadeirio achosion;
c
darpariaeth ynghylch gwrthdrawiadau buddiant sy'n codi—
i
mewn perthynas â chyfranogiad aelodau o'r Tribiwnlys yn y gwaith o ddyfarnu achos, neu
ii
mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Llywydd o dan adran 121.
4
Caiff Rheolau'r Tribiwnlys, ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn—
a
arfer gan y Llywydd, neu gan yr aelod sy'n cadeirio unrhyw achosion, unrhyw swyddogaethau sy'n ymwneud â materion sy'n rhagarweiniol i'r achos neu'n gysylltiedig â'r achos;
b
cynnal achosion yn absenoldeb unrhyw aelod ac eithrio'r aelod sy'n eu cadeirio;
c
dadlennu neu archwilio dogfennau, a'r hawl i fanylion pellach y gallai llys sirol ei rhoi;
d
dyfarnu achosion heb wrandawiad mewn amgylchiadau a ragnodir yn Rheolau'r Tribiwnlys;
e
achosion gwacsaw neu flinderus;
f
caniatáu costau (gan gynnwys costau cosbedigol, ond heb eu cyfyngu i hynny) neu dreuliau;
g
asesu'r costau neu'r treuliau hynny neu eu setlo fel arall (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi asesu'r costau hynny yn y llys sirol);
h
cyhoeddi adroddiadau ynghylch penderfyniadau'r Tribiwnlys;
i
pwerau'r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, yn yr amgylchiadau a gaiff eu pennu'n unol â Rheolau'r Tribiwnlys;
j
y dyddiad y bernir bod hysbysiad wedi ei roi gan y Tribiwnlys.
5
Mae'r pŵer i wneud Rheolau'r Tribiwnlys yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, a
b
i roi swyddogaethau i'r Llywydd neu i Weinidogion Cymru (yn ogystal ag i unrhyw berson arall), gan gynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud ag arfer disgresiwn.
6
Rhaid i'r Llywydd gyflwyno Rheolau'r Tribiwnlys i Weinidogion Cymru.
7
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod Rheolau'r Tribiwnlys a gyflwynir iddynt.
8
O ran rheolau a ganiateir gan Weinidogion Cymru—
a
deuant i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru'n ei gyfarwyddo, a
b
maent i'w cynnwys mewn offeryn statudol y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn gymwys iddo fel pe bai'r offeryn yn cynnwys rheolau a wneir gan Weinidogion Cymru.
9
Mae offeryn statudol sy'n cynnwys rheolau a wneir gan y Llywydd yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
F1124Cyfarwyddiadau ymarfer
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I4I6125Canllawiau, cyngor a gwybodaeth
1
Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.
2
Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.
3
Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).
4
Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—
a
i bersonau penodol, neu
b
yn fwy cyffredinol.
I3I1126Pwerau atodol
1
Mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yn is-adran (2), mae gan y Tribiwnlys yr un pwerau, hawliau, breintiau ac awdurdod â'r Uchel Lys.
2
Dyma'r materion—
a
presenoldeb tystion a'u holi,
b
cyflwyno ac archwilio dogfennau, ac
c
pob mater arall sy'n gysylltiedig â swyddogaethau'r Tribiwnlys.
3
Nid yw is-adran (1)—
a
yn cyfyngu ar unrhyw bŵer i wneud Rheoliadau'r Tribiwnlys, neu
b
wedi ei chyfyngu gan unrhyw beth yn Rheoliadau'r Tribiwnlys, ac eithrio cyfyngiad penodol.
4
Caiff y Tribiwnlys gyfarwyddo bod parti neu dyst i'w holi ar lw neu gadarnhad.
5
Caiff y Tribiwnlys weinyddu unrhyw lw, neu gymryd unrhyw gadarnhad, sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.