xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CCYFFREDINOL

PENNOD 1LL+CUNIONDEB CYMERIAD

134Cofrestr buddiannauLL+C

(1)Rhaid i bob deiliad swydd perthnasol greu a chynnal cofrestr buddiannau.

(2)Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.

(3)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol lunio'i gofrestr buddiannau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

(4)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol ddiweddaru ei gofrestr buddiannau'n barhaus.

(5)Mae hynny'n cynnwys dyletswydd i gynnwys buddiant cofrestredig yn y gofrestr buddiant o fewn 4 wythnos i'r canlynol ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny—

(a)y buddiant yn codi, neu

(b)y deiliad swydd perthnasol yn dod yn ymwybodol o'r buddiant (os yw hynny'n digwydd ar ôl i'r buddiant godi).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 134 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 134 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(m)

135Cyhoeddi cofrestrau buddiannauLL+C

(1)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)sicrhau bod copi o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r Comisiynydd, a

(b)sicrhau y perir bod copïau o gofrestr buddiannau pob deiliad swydd perthnasol ar gael mewn mannau eraill a thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y Comisiynydd.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at gopïau o gofrestrau buddiannau deiliaid swyddi perthnasol yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant yn y cofrestrau.

(3)Rhaid i'r Dirprwy Gomisiynydd roi i'r Comisiynydd—

(a)copïau o gofrestr buddiannau'r Dirprwy Gomisiynydd, a

(b)cymorth arall,

y gall y Comisiynydd ofyn amdanynt er mwyn ei alluogi i gydymffurfio â'r ddyletswydd o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 135 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4A. 135 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(m)

136Gwrthdrawiadau buddiannauLL+C

(1)Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol beidio ag arfer swyddogaeth os oes ganddo fuddiant cofrestradwy sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth.

(2)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Comisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid iddo ddirprwyo'r swyddogaeth honno (i'r graddau y bo'n angenrheidiol i alluogi'r gwaith hwnnw o'i harfer i gael ei wneud)—

(a)i'r Dirprwy Gomisiynydd, neu

(b)i aelod arall o staff y Comisiynydd.

(3)Mewn achos lle y mae is-adran (1) yn atal y Dirprwy Gomisiynydd rhag arfer swyddogaeth, rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau i'r swyddogaeth gael ei harfer gan rywun heblaw'r Dirprwy Gomisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 136 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6A. 136 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(m)

137Dilysrwydd gweithredoeddLL+C

Nid effeithir ar ddilysrwydd gweithred deiliad swydd perthnasol gan fethiant i gydymffurfio â darpariaeth yn y Bennod hon neu a wneir o dan y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 137 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I8A. 137 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(m)

138RheoliadauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)pennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion y Bennod hon, a

(b)gwneud darpariaeth arall at ddibenion y Bennod hon.

(2)Caiff buddiannau cofrestradwy gynnwys, ymhlith pethau eraill, buddiannau personau y mae cysylltiad rhyngddynt a deiliaid swyddi perthnasol (boed yn gysylltiad teuluol, ariannol neu o unrhyw fath arall).

(3)Yn yr adran hon ystyr “buddiant” yw buddiant o unrhyw fath (gan gynnwys buddiannau ariannol, a phob gweithgaredd a swydd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 138 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I10A. 138 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(b)

I11A. 138 mewn grym ar 1.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)

139Dehongli'r Bennod honLL+C

Yn y Bennod hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 139 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I13A. 139 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(c)

I14A. 139 mewn grym ar 1.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/969, ergl. 2(a)

PENNOD 2LL+CDIFENWI

140Braint absoliwtLL+C

(1)At ddibenion cyfraith difenwi, mae'r canlynol yn absoliwt freintiedig—

(a)cyhoeddi mater gan y Comisiynydd wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(b)cyhoeddi mater gan aelod o'r Panel Cynghori wrth iddo arfer unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau;

(c)cyhoeddi mater gan berson wrth iddo gydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad penderfynu;

(d)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)y Comisiynydd, a

(ii)person a ddiogelir,

fater mewn cysylltiad ag ymholiad neu ymchwiliad;

(e)cyhoeddi, mewn cyfathrebiad rhwng—

(i)yr achwynydd neu berson sy'n gweithredu ar ran yr achwynydd, a

(ii)cynrychiolydd,

fater mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 5 neu Ran 6.

(2)Yn yr adran hon mae cyfeiriad at y Comisiynydd yn cynnwys y personau canlynol—

(a)aelodau o staff y Comisiynydd;

(b)unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y Comisiynydd neu'n cynorthwyo i arfer swyddogaethau'r Comisiynydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 140 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I16A. 140(1)(a)(b)(2) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(n)

I17A. 140(1)(c) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)

I18A. 140(1)(d)(e) mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(n)

I19A. 140(1)(d)(e) mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(d)

141Dehongli'r Bennod honLL+C

Yn y Bennod hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 141 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I21A. 141 mewn grym ar 1.4.2012 at ddibenion penodedig gan O.S. 2012/969, ergl. 2(o)

I22A. 141 mewn grym ar 7.7.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(e)

PENNOD 3LL+CCYFYNGIADAU

142CyfyngiadauLL+C

(1)Nid yw'r Mesur hwn yn awdurdodi'r Comisiynydd i arfer swyddogaeth ragnodedig sydd yn rhinwedd deddfiad yn arferadwy hefyd gan berson rhagnodedig, nac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd wneud hynny.

(2)Yn yr adran hon ystyr “rhagnodedig” yw rhagnodedig mewn gorchymyn a wneir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 142 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I24A. 142 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(p)