xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1LL+CCOMISIYNYDD Y GYMRAEG

RHAN 2LL+CPENODI

PenodiLL+C

3(1)Pan fydd Prif Weinidog Cymru'n penodi'r Comisiynydd—

(a)rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau penodi (gweler paragraff 7),

(b)rhaid iddo roi sylw i'r argymhellion a wnaed gan y panel dethol ynglŷn â'r penodiad (gweler paragraff 7), ac

(c)caiff ystyried barn unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Prif Weinidog Cymru.

(2)Ni chaiff Prif Weinidog Cymru benodi person yn Gomisiynydd—

(a)os yw'r person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn Gomisiynydd ar sail cyflogaeth (gweler paragraff 13), neu

(b)os cafodd y person hwnnw ei benodi'n Gomisiynydd o'r blaen.

(3)Mae'r farn y caiff Prif Weinidog Cymru ei hystyried o dan is-baragraff (1)(c) yn cynnwys barn y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny—

(a)Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

(b)pwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, ac

(c)aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.6.2011 gan O.S. 2011/1586, ergl. 2(a)