ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
RHAN 2GWYBODAETH, DOGFENNAU A THYSTIOLAETH LAFAR
I2I16Hysbysiadau tystiolaeth
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—
a
yn darparu gwybodaeth,
b
yn cyflwyno dogfennau, neu
c
yn rhoi tystiolaeth lafar.
2
Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—
a
symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a
b
lwfansau yn iawndal am i B golli amser.
3
Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—
a
yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a
b
yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.