6(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person (B), yn ystod ymchwiliad—
(a)yn darparu gwybodaeth,
(b)yn cyflwyno dogfennau, neu
(c)yn rhoi tystiolaeth lafar.
(2)Caiff y Comisiynydd, os gwêl yn dda, dalu i B—
(a)symiau mewn cysylltiad â threuliau a dynnwyd yn briodol gan B, a
(b)lwfansau yn iawndal am i B golli amser.
(3)Mae unrhyw daliad i B i'w wneud—
(a)yn unol â graddfeydd y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd, a
(b)yn ddarostyngedig i amodau y caniateir eu pennu gan y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 10 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(h)