ATODLEN 10YMCHWILIAD Y COMISIYNYDD I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
RHAN 3PŴER I FYND I MEWN AC I ARCHWILIO
I2I112Pŵer i fynd i mewn ac i archwilio
1
Caiff y Comisiynydd, neu unrhyw berson a awdurdodir gan y Comisiynydd, fynd i mewn i fangre a'i harchwilio os bydd mynd i mewn ac archwilio'n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad yn nhyb y Comisiynydd neu'r person awdurdodedig.
2
Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4).
3
Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn—
a
i annedd, neu
b
i fangre nad yw o dan reolaeth y person yr ymchwilir iddo.
4
Nid yw'r paragraff hwn yn awdurdodi mynd i mewn i fangre ar adeg benodol os yw'n afresymol mynd i mewn ar yr adeg honno.